MR. DAFYDD OWEN. DENVER, COLORADO.
Denver, Colorado, Ebrill 11eg, 1900. Wedi gauaf hynod dyner a hafaidd, talodd Ebrill ymweliad a ni mewn "stormydd diri'.Drwg genym groniclo heddyw farwolaeth yr hen frawd a Chymrawd anwyl gan bawb, Dafydd Owen, yn ei anedd 1569 So Penna Avenue., yr hyn a gymerodd le Ebrill y 9fed, wedi afiechyd byr ond trwm iawn, y pneumonia, a phan oedd yn tynu at ei 80 mlwydd oed.
Bore Sul yr 8fed cyraeddodd John D. Davis, postfeistr Cambria, a mab-yn-nghyfraith i Dafydd Owen, y cartref trallodus mewn pryd i wylied oriau diweddaf yr hen Gristion pur, a bu o ddyddanwch a chynorthwy iddo hyd yr anadliad olaf.
Dydd Mawrth ymgasglodd tyrfa o'i gydnabod a'i edmygwyr i gynal gwasanaeth byr cyn myned a'i weddillion i'w daearu gyda'r anwyliaid oeddynt wedi ei ragflaenu yn mynwent Cambria, Wisconsin.
Genedigol oedd yr ymadawedig o Ffestiniog, Gogledd Cymru, lle yr adnabyddid ef fel "Dafydd Bach Maengwyn;" nodedig am y rhan flaenllaw a gymerai yn yr ymgyrchoedd dirwestol gynyrfai y cymydogaethau 60 mlyinedd yn ol.
Treuliodd lawer o flynyddoedd o'i oes faith yn Cambria, Wisconsin, ond daeth i Denver, Colorado, tua deng mlynedd yn ol i ddiweddu ei oes.
Bu Cymry y ddinas yn dyner a gofalus iawn o hono yn ei afiechyd diweddaf; a theimlai y frawoliaeth yn yr eglwys Gymreig bryder mawr yn ei gylch, gan ei fod yn swyddog defnyddiol ac athraw yn yr ysgol Sul. Nid oedd yr hen frawd ymadawedig fel y mwyafrif o blant gwragedd yn heneiddio cyn myned yn hen, yn heneiddio wrth fyned yn hen, nac yn heneiddio er myned yn hen.
Gallai yr ieuanc a'r canol oed fwynhau ei gymdeithas. Tafellai iddynt ei brofiad addfed mor ddiymhongar a diymffrost. Edmygid ei symlrwydd, edmygid ei gywirdeb, a mawrygid ei onestrwydd. Yr oedd pregeth, bywyd ac ymarweddiad Dafydd Owen yn llifo o hyawdledd pur. Cydymdeimlir a'i ferch, Mrs. Williams, sydd wedi ei gadael yn unig ac amddifad iawn, ac mewn iechyd sigledig.
Y Drych 19/04/1900.
MR. DAFYDD OWEN. DENVER, COLORADO.
Ebrill 9fed, 1900, yn ei gartref yn Denver, Colorado, bu farw David Owen. yn 79 mlwydd a thri mis ced, wedi bod yn dyoddef cystudd trwm o dan y pneumonia.Genedigol ydoedd o, Maengwyn, Ffestiniog, Gogledd Cymru, a daeth i'r wlad hon gyda ei briod a'i deulu yn 1857, gan sefydlu yn Frankfort Hill, New York, ac yn 1866 symudasant i Cambria, Wisconsin, lie y bu yn cartrefu am tua 25 mlymedd, a deg mlynedd yn ol daeth i Denver ar ol ei ferch Mrs. Williams, yr hon oedd wedi symud yma er mwyn ei hiechyd, a'r unig un o saith o blant oedd yn fyw, i weini arno yn ei henaint.
Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny yn yr eglwys, er y dywedai ei fod er ei gywilydd, wedi mynu myned allan i'r byd am dro. ond dychwelodd, yn o1 yn fuan. Yn mis Tachwedd, 1892, dewiswyd ef yn ddiacon yn eglwys Gymreig Denver, a bu yn ffyddlawn i'r ymddiriedaeth roddwyd iddo hyd ddiwedd ei oes. Byddai yn bresenol yn mhob moddion, yr Ysgol Sul, y cyfarfod gweddi, a'r seiat, yn gystal a'r bregeth. Ychydig iawn o weithiau y gwelsom ef yn absenol hyd at ei salwch diweddaf. Yr oedd ganddo ffordd bell i ddyfod, ac yr oedd yn rhaid iddo gymeryd y street car, ond nid oedd cyfarfod yn cael ei esgeuluso er mwyn arbed y gost. Yn un o'r seiadau diweddaf y bu yn bresenol, dywedai ei fod yn gwybod ei fod yn caru Iesu Grist, ac yr oedd yn awyddus iawn am weled yr eglwys yn llwyddo.
Yr oedd o gymeriad gwastad, ddidderbynwyneb a thangnefeddus, wedi ed brofi a'i buro gan brofedigaethau y byd, ac wedi dal y prawf. Diau y gwelir cofiant iddo yn y "Cyfaill" yn fuan.
Bydd yn golled fawr iawn i eglwys Denver ar ei ol. Cafwyd gwasanaeth angladdol iddo yn y ty prydnawn ddydd Mawrth, ac aed, a'r corff i'w gladdu yn meddrod y teulu yn Cambria, Wisconsin.
Gadawodd un ferch, Mrs. Maggie Williams, Denver, i alaru ar ei ol.
J. T. Evans.