MR. DAVID OWEN. DENVER, COLORADO.

Ebrill 9fed, 1900, ar ol cystudd trwm trwy y pneumonia, bu farw y diacon medrus a ffyddlawn David Owen, yn 79 mlwydd a 3 mis oed. Cynaliwyd y gwasanaeth arferol dranoeth yn ei gartref, ac yna symudwyd y gweddillion o dan ofal ei fab-yn-nghyfraith, J. R. Davies, i Cambria, Wisconsin, i'w claddu gerllaw eiddo ei briod a'i blant oedd wedl ei flaenori. Cafod angladd pendefigaidd, lle y treuliodd bron chwarter canrif o'i oes, ac y gwnaeth lawer o gyfeillion pur.

Oherwydd gwaeledd iechyd, analluogwyd ei unig blentyn, Mrs. Maggie Williams, Denver, i fod yn bresenol.

Ganwyd David Owen yn Maengwyn, Ffestiniog, Gogledd Cymru, Ionawr 10fed, 1821. Enwau ei rieni oedd Owen Jones a Catherine Williams. Bu farw ei dad pan oedd ef yn fachgen 15 mlwydd oed.

Tachwedd 12fed, 1848, aeth o dan y cyfamod priodasol gyda Catherine Williams, merch Lewis a Jane Williams, Trawsfynydd. Yr oedd ei thad, yr hwn a fu farw pan oedd hi yn 8 mlwydd, oed, yn bregethwr gyda'r Annibynwyr. Gyda Davies, Penstryd, oedd yn Weinidog gyda yr un enwad yn Trawsfynydd, y codwyd hi.

Ar ol treulio blwyddyn yn Llan Ffestiniog, symudodd David Owen i'r Blaenau, lle y cartrefodd hyd 1857, pryd yr ymfudodd i America. Bu am 9 mlynedd yn Frankfort Hill, New York, yna symudodd i Cambria, Wisconsin, yn 1866. Bu iddo dri o feibion a phedair o ferched, ond claddwyd dau o'r bechgyn yn Nghymru, yr hynaf yn bump oed, a'r llall yn faban. Ymdrechodd i roi yr addysg oreu a allai i'r gweddill, a threuliodd yr oll eu hoes yn aelodau dichlynaidd yn yr eglwys, ac yn blant a edmygid ac a gerid gan bawb o'u cydnabod.

Hydref 6ed, 1871, dechreuodd angeu rwygo ei deulu drachefn, pan y symudwyd ei anwyl ferch Catherine o ganol swyn ieuenctyd, yn 16 mlwydd oed. Mawrth 11eg, 1878, bu farw ei unig fab Lewis cyn cyraedd ei 25 mlwydd oed. Chwefror 3ydd, 1885, bu farw ei anwyl briod, fuasai yn gydymaith dyner iddo cyn hyny mewn hawddfyd a thrallodion. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedyn bu farw ei fech Jennie, oedd yn llawn talent a dymunoldeb, pan yn 27 mlwydd oed, yna bu farw y drydedd o'i ferched, oedd yn briod a John R. Davies, yn wraig ieuanc hawddgar, yn 24 mlwydd oed, gan adael tair o enethod amddifaid ar ei hol.

Gallwn ddweyd am yr oll o'i blant eu bod yn rhagori yn fawr ar luaws ieuenctyd yr oes mewn gwybodaeth, talent a dymunoldeb, ac yr oedd hyny i'w briodoli mewn rhan i'w ymdrech ef a'i briod i'w haddysgu. Nid oedd iechyd yr olaf o'i ferched ond gwanaidd; ar gyfarwyddyd meddyg symudodd hi gyda ei phriod a nith fechan, i Denver.

Yn Ebrill, 1890, dylynodd ei thad, a da iawn fu iddi wrtho, gan iddi orfod claddu ei phriodl a'i nith o fewn wyth mis i'w gilydd, yn mhen rhyw flwyddyn wedi ei fynediad ef yno.

O hyny allan bu Mr. Owen a'i unig ferch Maggie yno yn gofalu am eu gilydd mewn ffyddlondeb, nes iddo ef gael ei symud. Oherwydd ei fod yn ddyn o ddeall cryf, dawn esmwyth, a ffyddlondeb ymroddgar, profodd yn elfen o werth mawr yn yr egiwys yno.

Yn Tachwedd, i892, galwyd ef yn ddiacon, a llanwodd hi gyda medr, doethineb a ffyddlondeb llawn weddill ei ddyddiau. Er iddo ef bryderu fel arall, gwnaethai yr ymadrodd "A lle Dafydd oedd wag," destyn cyfaddas iawn i sylwadau yn ei angladd. Dyma dystiolaeth y Parch. J. T. Evans, bugail yr egiwys yn Denver, amdano: "Er ei fod yn byw mor bell o'r addoldy nes gorfod cymeryd street car i fyned yn ol a blaen bob tro, nid oedd pellder ffordd na'r draul yn ei gadw adref. Byddai yn bresenol yn yr holl gyfarfodydd. Mewn seiat ar dywydd anffafriol yn Chwefror diweddaf, pryd nad oedd ond saith yn bresenol, yr oedd ef yn un o'r saith.

Ychydig iawn o weithiau y bu yn absenol yn y flwyddyn y bum yma, ac yr oedd ganddo ddigon o esgus y troion hyny. Yr oedd yn aelod defnyddiol iawn yn yr Ysgol Sul, wedi chwilio Gair Duw mewn ysbryd addas, ac yn ei ddeall lawer yn well na'r cyffredin. Yr oedd yn siaradwr hyfryd i wrando arno, ac yn y seiat, gyda phethau ysbrydol crefydd y meddai fwyaf i'w ddweyd. Y mae rhai fedr siarad ar bob peth allanol yr achos, heb ddim i'w ddweyd am bethau ysbrydol. Yr oedd ef yn gwbl wahanol. Tra nad oedd ei brofiad mor uchel ag y dygswyliasid, yr oeddi ei syniadau am drefn gras yn nodedig o uchel; ofnai roi gormod o le i'w bethau ei hunan, yn lle ymddiried yr oll ar Grist.

Tystiai yn glir iawn am ei gariad at Iesu Grist, yn un o'r seiadau olaf a fwynhaodd. Ei brofiad y Sadwrn olaf y bu byw oedd Esaiah 38: 17, 'Canys ti a deflaist fy holl bechodau o'r tu ol i'th gefn.' Gwnaeth le mawr iddo ei hun yn mysg ei gydnabod yma, a bydd y golled ar ei ol yn yr eglwys yn un fawr. Dyn gwastad, pwyllog a gwyneb agored y cefais i ef; un yn meddu ymddiried cryf yn rhagluniaeth Duw."

Cymerwyd ef yn glaf Mawrth 24ain, a chafodd gystudd trwm anarferol. Dywedai na feddyliodd fod marw yn beth mor boenus, a dymunai yn y diwedd am gael ei ollwng. Yn ol y dymunai, cafodd farw o flaen Maggie ei ferch, i gael ei gofal tyner drosto yn ei gystudd, yr hyn a brofodd yn ddigon i'w llethu î'w gwely, cyn ei angladd,. Nid dyn cyffredin oedd David Owen ar un cyfrif. Er na chafodd lawer o fanteision addysg foreuol, trwy lafur ac ymroddiad' meddianodd wybodaeth helaeth, ac yr oedd yn mhell iawn o flaen y lluaws yn ei wybodaeth yn ngair Duw.

Bu yn llenwi saflei o nod fel dadleuydd dros ddirwest cyn gadael Cymru. Yr oedd yn fedrus fel cerddor, a chanddo allu uwchlaw y cyffredin fel bardd. Ysgrifenodd un adeg lawer o erthyglau miniog a chryfion i'r cyhoeddiadau Cymraeg. Fel darllenwr ac adroddwr yr oedd yn bur nodedig, ac addysgodd ei blant i enill safle felly yn mysg goreuon y wlad. O ran ei olygiadau crefyddol yr oedd yn Fethodist trwyadl, yn rhoi ei le mawr ei hun i ras Duw yn yr iachawdwriaeth a hyny heb golli golwg ar gyfrifoldeb dyn ei hun.

Fel cyfaill yr oedd yn ymlyngar a phur drwyddo, ac yn un felly yr oedd ysbryd dyn yn well wedi bod mewn cymundeb ag ef. Bu yn ffyddlawn nodedig gyda moddion gras hyd y diwedd, a chredwn iddo fyned i ganol gwynfyd Duw yn y diwedd. Bydded y nefoedd yn dyner iawn o'i unig ferch yn ei gwaeledd, a'i berthynasau oll.
John R. Jones, Hendref.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1900.