MRS. ELLEN OWENS. COLUMBUS, WISCONSIN.

Ebrill 12fed, 1900, yn 81 mlwydd oed, bu farw Mrs. Ellen Owens, yn nghartref Ann ei merch, sydd yn briod â William D. Roberts, Tyddynhelen, gerllaw Morlan, Columbus.

Ganwyd hi yn Gwredog Uchaf, plwyf Llanwnda, ger Caernarfon, Mawrth 15fed, 1819. Ei rhieni oedd John a Gwen Thomas. Bu iddi dri o frodyr, oll wedi meirw o'i blaen hi, ac y mae iddi ddwy chwaer yn Nghymru.

Tua'r flwyddyn 1842 ymunodd mewn priodas â Richard Owens, mab i Hugh a Jane Owens, Gwredog Isaf, gerllaw Caernarfon. Wedi treulio rhwng dwy a thair blynedd yn ardal eu genedigaeth, ymfudodd y teulu, gan gyfeirio tua Columbus, Wisconsin. Pan yn Racine, Wisconsin, ar eu taith, bu farw Hugh, eu baban cyntafanedig. Sefydlodd y teulu ar y tyddyn fu yn gartref iddynt am fwy na haner canrif, yn haf y flwyddyn 1845, fel yr oeddynt yn mysg sefydlwyr boreuaf y lle. Ganwyd iddynt bump o ferched ac un mab, o ba rai y mae pump yn fyw eto. Y mae y íerch hynaf, gweddw y diweddar ddiacon Edwward R. Griffiths, Bark River, yn byw gyda y ddau fachgen yno. Preswylia Jane, gweddw y diweddar Griffith Jones, gyda ei merched gerllaw Moriah. Y mae Ann yn briod â William. D. Roberts, yn byw yn yr un ardal. Y mae Lizzie Margaret yn briod â John O. Thomas, Ty Hen; John R. Owens, y mab, sydd yn hen gartref y rhieni.

Ymunodd Mrs. Owens a chrefydd yn Bethel, Columbus, yr un adeg a'i phriodl, yn 1848, lle y bu y ddau yn aelodau cymeradwy hyd derfyn eu dyddiau. Yr oedd Mr. Owen yn un cynes iawn ei ysbryd, ar adegau bywiog ar grefydd. Tueddu at fod yn bryderus ac ofnus y byddai hi yn fynych, ac eto yn cyraedd glan hyfryd ar adegau. Bu y ddau yn nodedig o ffyddlon nes i lesgedd henaint eu dal. Fel y mwyafrif o blant y ddaear, fe welodd Mrs. Owens "aml a blin gystuddiau." Cyfeiriwyd at farwolaeth ei chyntafanedig eisoes.

Gwelodd gladdu tri o feibion-yn-nghyfraith oedd yn agos at ei chalon. Bu farw wyres iddi, Amanda J. Evans, yn eneth dyner 17 oed, Ionawr 20fed, l893.

Chwefror 7fed, 1896, bu farw ei phriod, yr hwn a fuasai yn gefn a dyddanwch iddi am fwy na haner canrif. Treuliodd weddill ei hoes gyda ei merched, y rhai a brofasant yn orlawn o ffyddlondeb a thynerwch ati, yn gystal a'u teuluoedd.

Ionawr 7fed, 1897, bu farw ei hanwyl ferch Winnie, oedd yn briod â William E. Pugh, Chicago, Illinois, yn 43 mlwydd a 6 mis oed. Rhwng yr oll a'i cyfarfyddodd, yr oedd ei blynyddoedd olaf yn llawn o drallodion iddi. Gwanaidd a llychlyd oeddi hithau yn niwedd ei hoes. Mewn misoedd diweddar ei dymuniad oedd caei ei gollwng heb bron llawer o gystudd trwm. Daeth y diweddu hefyd pan nad oedd neb yn ei ddysgwyl, pryd yr oedd hi ychydig yn flaenorol yn teimlo yn well nag arferol. Ei phrofiad olaf cyn mentro i niwl y glyn oedd yr hen benill, "Mae'r iachawdwriaeth fel y môr, yn chwyddo byth i'r lan."

Crediniaeth ei chydnabod yw iddi gael llithro i ganol y cyfiawnder heb wybod nemawr oddiwrth drallod angeu. Tybid mai anhwyldeb y galon oedd yr offeryn esmwyth i'w symud.

Ebrill 14eg ymgasglodd torf fawr o'r ardalwyr i hebrwng y gweddillion i gladdfa Bethel, at eiddo ei phriod, ac eraill o'r teulu. Cyflawnwyd y gwasanaeth gan y Parch. John R. Jones a'r brawd ieuanc Josiah Daniel yn ei gynorthwyo. Testyn y sylwadau angladdol oedd Datguddiad 2: 10.

Erbyn hyn y mae bron yr oll o'r hen do cyntaf o aelodau Bethel wedi eu claddu.
J. R. JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1900.