MRS. ELLEN OWENS. RANDOLPH, WISCONSIN.

Ionawr 17eg, 1900, yn dra annysgwyliadwy, wedi ychydig ddyddiau o gystudd, gweddw y diweddiar J. R. Randolph, Wisconsin.

Ganwyd hi yn Plwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac yr oedd yn ferch i William ac Anne Parry. Ymfudodd 1860, pan yn 23 oed, i America gan ymgartrefu yn Milwaukee. gyda'i chwaer Mrs. John Jones, yn awr o Sioux Falls, South Dakota.

Yn mhen amser ymbriododd a Thomas J. Price, yr hwn, fu yn ngwasanaeth y C. M. and St. Paul R. R. am tua 30 mlynedd.

Tua 24 mlynedd yn ol symudodd hi a'i phriod i ardal Blaen-y-cae, lle y prynasant fferm, ac y preswyliasant hyd farwolaeth Mr. Price.

Priododd yr ail waith a J. R. Owen, yr hwn fu farw yn 1893. Ni bu iddi blant, ond magodd ferch i Mrs. Jones. Bu yn aelod o'r Eglwys A. yn Milwaukee am flynyddoedd, ac ar ei symudiad i Blaen-y-cae, ymudodd a'r T. C. Yr oedd adeg ei marwolaeth yn aelod o eglwys y T. C. yn Randlolph.

Mae un brawd a dwy chwaer, sef Mr. William Parry, Bay View, Milwaukee, Mrs. Hugh Owen, Randolph, a Mrs. John Jones, Sioux Falls, yn fyw i alaru ei cholled.

Yr oedd yn wraig a fawr hoffid gan ei chydnabod, yn ffyddlon iawn i gynulliadau yr eglwys y perthynai iddi, yn ddilychwin ei rhodiad, a diau ei bod wedi manteisio yn dragwyddol ar y cyfnewidiad olaf yn ei hanes naturiol.

Claddwyd hi y Sadwrn canlynol yn Randolph, a gweinyddwyd gan y Parchn. D. R. Jones a J. R. John.
J. R. J.

Y Drych Chwefror 22ain 1900.