MRS. JANE OWENS. IOWA, WISCONSIN.

Chwefror 9fed, bu farw Mrs. Jane Owens, gweddw y Parch William Owens, yn 76 mlwydd 3 mis ac 8 niwrnod oed. Merch ydoedd hi i Ellis a Jane Owen. Ganwyd hi yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Tachwedd 1823. Daeth gyda ei rhieni i'r wlad hon yn 1830, ac ymsefydlasant yn agos i Utica, New York, ac yn 1845 symudasant i Dodgeville, lle y treuliasant eu hoes.

Ymunodd mewn priodas a'r Parch. William Owen, Mawrth 13eg, 1848. Ganwyd iddynt naw o blant, o'r rhai y mae saith yn fyw. Yr oedd Mrs. Owens yn ddynes dda, ac yn Gristion er ran yn ieuanc iawn. Parhaodd yn aelod ffyddlon o'r eglwys Gynulleidfaol Gymreig ar hyd ei hoes, a chredir ei bod wedi newid am well gwlad.

Cafodd angladd lluosog a pharchus ar y 13eg, pryd y gweinyddwyd gan ei gweinidog — y Parch. D. Dyfri Davies, yn cael ei gynorthwyo gan y Paroh. W. W. Hurd (M. E.).

Daearwyd y oorff yn nghladdfa Dodgeville:

Datod wnaeth ei thy daearol,
Esgyn wnaeth ei hysbryd pur,
O'r anialwoh. blin trallodus,
Fry i'r baradwysaidd dir;
Ni ddaw henaint mwy i'w blino,
Na gofidiau o un rhyw,
Bydd yn ddedwydd gyda'r Iesu,
Yn nghymdeithas bur ein Duw.

Y Drych Mawrth 1af 1900.