MR. JOHN THOMAS OWENS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 17eg, yn ysbyty St. Luke, bu farw John Thomas Owens, ar ol salwch o wythnos dan y pleuro-pneumonia.Ganwyd Mr. Owens yn Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, yn 1876, ac ymfudodd i'r wlad hon yn 1886 gyda'r teulu, gan ymsefydlu yn Utica.
Yn mhen rhai blynyddoedd symudodd i New York, lle y bu yn gwasanaethu fel clerc mewn gwestai. Tua chwe mis yn ol dychwelodd i Utica, a bu yn gwasanaethu yn y Butterfield House.
Yr oedd yn ddyn ieuanc siriol a charedig a galerir gan ei gydnabod ar ei ol, a chan ei fam, Mrs. Ann Owens, 48 Elm Street, a chwaer Mrs. John Williams, 101 Steuben Street.