MR. ROBERT PARRY. IXONIA, WISCONSIN.

Ei Farwolaeth Sydyn o Glefyd y Galon

Mehefin 17eg, 1900, yn gwbl ddirybudd, bu farw Robert Parry, Ixonia, Wisconsin, o glefyd y galon.

Ar y 19eg ymgynullodd torf o'i gymydogion a'i edmygwyr i dalu eu cymwynas olaf iddo. Gwasanaethwyd yn grefyddol ar yr achlysur gan y Parch. J. E. Jones, Milwaukee, a rhoddwyd ei gorff i orwedd wrth ochr ei anwyl briod a'i ferch yn nghladdfa brydferth La Belle, Oconomowoc.

Mab ydoedd Mr. Parry i John ac Annie Parry, Pen y Bryn, Clynnog Fawr, Gogledd Cymru. Ganwyd ef yn Bangor, Hydref 6ed, 1826, ac yr oedd yn un o naw o blant.

Yn 1846, pan yn llanc 20 mlwydd oed, ymfudodd i America, ac ymsefydlodd i ddechreu yn Flushing, Long Island, lle y bu am amryw flynyddoedd yn gweithio wrth ei grefft fel saer maen.

Hydref 29ain, 1853, yn nghapel yr Annibynwyr ar 11th Street. New York, seliwyd undeb priodasol rhyngddo a Miss Margaret James, pryd y gwasanaethwyd, a hyny am y waith gyntaf yn y cyfryw gylch, gan y diweddar Barchedig Griffith Griffiths. O'r undeb dedwydd hwn ganwyd dau o blant yn Flushing, sef Annie a Mamie. Mae Annie yn briod gyda Wm. Samuel, ac iddi hi a'i phriod y disgynodd y gorchwyl o ofalu am ei thad yn ei henaint a'i lesgedd, yr hyn y bu ddiwyd i'w wneuthur. Bu farw Mamie yn 1875 yn eneth feuanc 18 oed.

Bu y teulu yn byw yn Flushing hyd 1859, pryd y symudasant i ardal Ixonia, ac yno y ganwyd Henry D., y mab, yr hwn sydd ers blynyddau yn ngwasanaeth y C. M. and St. Paul R. R. fel station agent, ac a gartrefa yn awr yn Marinette.

Dylynodd Mr. Parry ei grefft yn Ixonia hyd o fewn ychydig flynyddau i'w farwolaeth. Gorfodwvd ef i roi i fyny o herwydd musgrellni a achoswyd gan ymosodiad o'r gymalwst. Yn ffodus, yr oedd wedi darparu cartref clyd ar gyfer y dyddiau blin, fel nad oedd methu gweithio yn unrhyw brofedigaeth o ran yr amgylchiadau. Er nad oedd yn teimlo gystal ag arfer er diwedd Mai, yr oedd yn alluog i fyned oddiamgylch bob dydd.

Dydd Sul, Mehefin 17eg, gorweddai ar esmwythfainc yn darllen gweithiau W. Ambrose. Rhoddodd y llyfr ar lawr, cododd ar ei draed, a chwympodd i lawr yn farw, heb ddweyd gair.

Ystyrid ef yn grefftwr diguro yn ei ddydd, ac felly yr oedd cyflawnder o waith ar ei law yn wastadol.

Yr oedd yn derbyn y "Drych" o'i gychwyniad, ac yn edmygwr mawr o hono fel newyddiadur cenedlaethol. Yr oedd er yn ieuanc wedi arfer darllen yn helaeth, ac wedi meithrin chwaeth at y prif awdr-wyr, megys Shakespeare, Tennyson, Gibbon, Eben Fardd, Ambrose, a.y. Meddai gof da i gadw meddiant o bob peth a ddarllenai ac o herwydd hyny yr oedd yn gwmniwr dyddan a buddiol.

Yr oedd yn briod a thad caredig, yn gymydog tawel a heddychlawn, ac yn gyfaill pur a ffyddlawn.
Cyfaill.

Y Drych Mehefin 28ain 1900.