MR. WILLIAM PARRY. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

WILLIAM PARRY YN CAEL EI LADD.

Mawrth 10fed. — Prydnawn dydd lau lladdwyd ein cyfaill William Parry, gynt o Bethesda, Arfon - mab William. William. Parry y Llofft, ar darawiad amrant, drwy i gareg fawr ddisgyn ar ei gefn yn y chwarel.

Dyn sengl ydoedd, tua 63 oed, yr hwn ddaeth yma o Gymru tua 35 mlynedd yn ol. Bu yn Leadville, Colorado, am ysbaid, ond yma y cartrefai yn benaf gyda'i chwaer Mrs. Ben Williams. Yr ydoodd yn ddyn tawel, caredig iawn, nad oedd iddo elyn ar y ddaear. Cafodd ddygiad i fyny gan rieni crefyddol, a pharhaodd yntau felly hyd nes aeth i Colorado i ymgymysgu a'r lluaws di-grefydd a di-Sabboth, ac felly ymollyngodd yntau i ddifaterwch.

Daeth tyrfa fawr yn nghyd ddydd Sadwrn, heddyw, i'w gladdedigaeth, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. John Williams, Granville, Mr. Harrington a William. Nathaniel. Yr oedd tyrfa fawr o'i frodyr yr Iforiaid yn eu hurddwisgoedd yno; ac yn gwasanaethu ar lan y bedd.
Griffith R. Davies.

Y Drych Mawrth 15fed 1900.