MRS. SARAH W. PERRY. PORT LEYDEN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Bu farw yn ei diweddar gartref gerllaw pentref Port Leyden, swydd Lewis, Efrog Newydd, Rhagfyr 2ail, 1900, yn agos i 66 mlwydd oed.Ganwyd hi yn ardal Rhydymain, sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i Robert ac Eleanor Williams, y rhai a ymfudasaut i'r wlad hon yn y flwyddyu 1842.
Prynodd fy nhad ffarm yn mhlwyf Greig, yn agos i Lyons Falls yn awr - oll oddigerth tua pymtheg erw o dan goed. A llawer fu y drafferth i gael rhanau eraill o'r lle dan ddiwylliad. Yr oedd pedwar o blant o honom.
Fy chwaer Sarah oedd y drydydd o ran oedran. Bu fy chwaer henaf farw ychydig flynyddoedd yn ôl. Gwraig oedd i Lewis Jones o'r swydd uchod. Cawsant ddwyn i fyny bedwar o blaut, tri yn byw yn Lowville, y tad ac un mab wedi marw. Am mai y fi oedd yr olaf o'r plant, byddai fy çhwaer Sarah yu dweyd wrthyf nad oeddwn yn alluog i weithio fel y lleill, ac na "fedrwn enill arian fel hwy."
Yr wyf yn cofio iddi fod yn gweini am wythnos mewn tŷ cymydog, a chael swllt am ei gwaith. Rhedodd adref gan waeddi o lawenydd am y cyflog mawr a gafodd! Bu allan yn gweini llawer pan oedd ond lled ieuauc, am fod angen am i bawb o'r teulu fod o gymorth at helpu byw yn yr amser cyntefig hwn.
Byddai y plant yn cael ysgol yn y gauaf, ae yno y cafodd Sarah yr oll gyfleusderau at gael addysg ag a gafodd. Eto darllenodd lawer, ac yr oedd ganddi feddwl ymchwiliadol, a chof lled dda, fel y daeth i feddu gwybodaeth glir am lawer o bethau dymunol i'w deall. Yr oedd yn barchus iawu mewn perthynas i'w chymeriad gan bob teulu gyda pa rai y bu yn gwasanaethu.
Yr oedd yn dra hoff o ganu, ac aml y byddai fy nhad gyda'r plant yn myned dros rai o'r hen donau melus a ganwyd yn Nghymru - amryw o'r rhai hyn o'i waith ei hun.
Yr oedd fy chwaer yn lodes ieuauc landeg, siriol, fywiog, ac iachus. Ymbriododd â Henry Perry, o'r un swydd, yn 1856. Unwyd hwy gan y Parch. D. E. Pritchard, Turin y pryd hyny, a than ei weinidogaeth ef yr unodd Sarah a'r eglwys Annibynol yn Turin. Aethant i fyw ar ffarm yn agos i Lowville, lle yr arosasant hyd 1865. Symudasant i Greig am ysbaid byr, yna aethaot i fyw ar y tyddyn yn agos i Port Leyden, fel uchod.
Gauwyd iddynt dri o blaut - R. W. yn South Dakota; Lewis H. yn New York; ac Ella J., gyda'i rhieni gartref. Cafodd y ddau fab y fraint o weled eu mam ac i ymddyddan ychydig â hi cyn ei marwolaeth. Yr oedd hi bob amser yn ymdrechgar am roddi iddynt gyngor da at fyw yn onest, cynil, a bod o fuchedd ddysglaer a duwiol. Tra y bum yn cymeryd gofal yr eglwys Gynulleidfaol yn Port Leyden, daeth y teulu yuo i addoli.
Yr oedd fy chwaer a'm brawd Perry, ac Ella, yn aelodau yno, ac wedi hyn darfu iddynt ymuno a'r eglwys M. E. yn y pentref.
Byddai hi yn ffyddlou i roddi gair o gyngor i mi gyda golwg ar fy ngwaith. Yr oedd hi yu wastad yr un fath - siriol, gymwynasgar, hunan-ymwadol, a chariadlawn, a chanddi euw da yn yr holl ardal- oedd hyn. Gwyr pawb am ei charedig letygarwch. Ni wnaeth bethau mawr yn gyhoeddus gyda chrefydd, ond yr oedd y bywyd yn fwy yn ei golwg na dysgleirdeb allanol. Meddai ar ymddiried cadarn yn y Beibl fel gair Duw, ac yr oedd ganddi ffydd yn Iesu Grist, a chariad mawr ato fel ei gwaredwr. Credaf fod fy chwaer yn lân o galon, ac yn barod i fyned adref at "yr hwn a'i carodd ac a'i golchodd yn ei waed ei hun."
Cymerwyd hi ymaith ar ôl cryn gystudd gan y pueumonia. Daeth tyrfu luosog yn nghyd dydd Mercher, Rhagfyr 5ed, a chynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn y tŷ, ei gweinidog, Alonzo Hand o'r eglwys M. E. yn gweinyddu. Cymerwyd rhan hefyd gan y Parchn. D. L. Roberts, Glenfield, a Ruben Kline, Port Leyden. Canwyd gan gôr y lle diweddaf. Codwyd yr arch gan ei hen gyfeillion a'i chymydogion - R. M. Price, David Roberts, David Jones, a W. D. Lewis. Claddwyd y rhan farwol yn mynwent Turin.
Nid aml y gwelir cymaint o arwydd teimlad galar cyffredinol ag a welwyd ar ddydd claddedigaeth fy chwaer. Nodded y nef mewn modd helaeth a fyddo gyda fy mrawd galarus, ac a fo yn amddiffyn i'r plant oll hyd yn nheyrnas nef.
Daw deigryn hiraeth yn aml ar ei hol. Cofiwn am lawer awr ddifyrus gyda'n gilydd pan yn blant. Cofiwn am gydaddoli, a ohofio am ei angeu Ef yn ei dy. Cofiwn byth y chwaer garedig! Önd ar yr un pryd, trown ein golwg at y dyfodol - dydd y fuddùgoliaeth - cael y "ty nid o waith llaw," a chwrdd yn y nefoedd.
LEWIS WILLIAMS Utica, N. Y.