MRS. ELIZABETH PRICE. BROWNVILLE, MAINE.

Tachwedd 12fed, 1900, yn Brownville, Maine yn 68 oed, Elizabeth, anwyl wraig i John Elias Price, yr hon a ddyoddefodd gystudd maith, heb ond ychydig o rwgnach, er ei bod wedi bod yn gwaelu am lawer o flynyddoedd.

Yr ydoedd yn aelod o'r eglwys Annibynol yn y lle hwn.

Gadawodd i alaru ar ei hol, briod, dwy chwaer, dau o feibion, ac un ferch.

Claddwyd hi y dydd Mercher canlynol, pryd y daeth tyrfa luosog i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. David Pugh.

Merch i David a Hannah William Roland ydoedd yr ymadawedig, ac ymfudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1852 o fynydd Llandegai. Yr oedd y teulu yn cynwys wyth, y rhieni a 6 o blant. Erbyn heddyw nid oes yn aros ond dwy o'r merched. Daeth y teulu drosodd gyda'r hen "Ann Grand" oedd yn dyfod a llwyth o lechau i Boston. Yr oedd ar ei bwrdd 65 o Gymry. Erbyn hyn mae y rhan fwyaf o'r llwyth wedi gadael yr hen fyd hwn; ond y mae ychydig yn aros eto, sef tri yn y lle hwn, ac un yn Utica, teulu William George. Hefyd William M. Owen yn Fair Haven.
David Lloyd.

Y Drych Tachwedd 29ain 1900.