MR. WILLIAM R. PRICE. CHICAGO, COOK COUNTY, ILLINOIS.

Ionawr, 12fed, 1900, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd caled, er nad oedd ei iechyd yn dda yn flaenorol, bu farw y gwr da uchod yn ei breswylfod, 888 Warren Avenue, gan adael priod anwyl a gofalus i alaru ei cholled mewn unigedd ar ei ol.

Mab o Feirion ydoedd, wedi ei eni yn Cemmaes, Llanegryn, Gogledd Cymru, Chwefror 9fed, 1832, ac efe oedd y pedwerydd o 13 o blant i David a Sarah Price, a goroesir ef gan bedair chwaer a phedwar brawd. Bu un plentyn farw yn ieuanc, ond tyfodd y lleill oll i gyflawn oedran. Pan oedd ef yn 11 oed, ymfudodd y teulu i'r Talaethau, ac ar ol treulio 4 neu 5 mlynedd yn ardal Racine, Wisconsin, gwnaethant eu cartref yn Proscairon.

Pan yn 21 oed symudodd ef i Chicago. Yn 1862, symudodd i Montana, ac yn ystod ei arosiad yno, derbyniodd y newydd trist am farwolaeth ei anwyl fam. Dychwelodd i Chicago yn 1868, ac oddieithr un flwyddyn a dreuliodd yn Dubuque, Iowa, treuliodd y gweddill o'i ddyddiau yn Chicago.

Hydref 4ydd, 1884 ymunodd mewn glan briodas a Miss Laura Jones, Ty'n coed, Cambria, yr hon a fu yn gydmar gywir, ffyddlon a thyner iddo hyd y diwedd.

Yn ystod ei arosiad yn Chicago, bu yn ngwasanaeth yr un gwr, sef Mr. Frank Parmelee, perchenog y Railway Omnibuses.

O'r flwyddyn 1892, pan y collodd ei iechyd, ni allodd, ddylyn ei alwedigaeth ond am flwyddyn a haner. Bore Sabboth olaf y bu byw, yr oedd yn y capel yn cyfranogi o sacrameat Swper yr Arglwydd - y Sabboth dylynol cyfranogai ef o ogoniant yr Arglwydd, tra yr oeddym ni yn Chicago yn cynal gwasanaeth angladdol uwchben ei gorff, ac yn cychwyn gyda'r arch i Cambria, Wisconsin, lle y cynaliwyd gwasanaeth crefyddol arall, ac y gwasanaethwyd gan y Parchn. Jno. O. Parry, Williams (P.), J. R. Johns, E. Morgans (A.), a J. C. Jones, ac yn mynwent Cambria, tra y syrthiai cawod o eira gwyn i guddio hagrwch gauaf, y daearwyd gweddillion dyn a adwaenem yn dda, ac a barchem yn fawr.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphennaf 1900.


MR. WILLIAM R. PRICE. CHICAGO, COOK COUNTY, ILLINOIS.

Know all men by these presents, that I William R. Price, of the city of Chicago, Illinois, residing at Number 888 Warren Avenue, being of sound and disposing mind and memory, do make, publish and declare this as and for my last Will and Testament in the manner following that is to say,

First. I give, devise and bequeath to my wife Laura J. Price all my estate, both real and personal of every name and nature and wheresoever situate absolutely, in her own right forever.

Second. I nominate and appoint mt said wife Laura J. price to be the Executrix of this my will and I direct that no security be required of her as such Executrix.

In witness whereof I have hereunto set my hand and affixed my seal this eleventh day of January A. D., one thousand eight hundred and ninety six.

The foregoing instrument was signed, sealed, published and declared by said William R. Price, the testator, as and for his last Will and Testament in our presence, who at his request and in his presence, and in the presence of each other have attached our names as witnesses thereto.
John B. Stevens
Henry B. Chandler

Will proved and admitted to record in open court this 26th day of february A. D. 1900.

Illinois, U.S., Wills and Probate Records, 1772-1999.