MRS. MARGARET WILLIAMS PRICHARD. HOWARD, SOUTH DAKOTA.

Ebrill 9fed, 1900, yn Howard, South Dakota, bu farw Mrs. Roland E. Pritchard, gan adael ar ei hol briod galarus, un ferch a phump o feibion — un o'r rhai, Evan, sydd yn weinidog gyda'r Presbyteriaid yn Oregon.

Ganwyd Mrs. Pritchard yn Dolyddelen yn 1827. Pan yn ddwy flwydd oed ymfudodd i America gyda'i rhieni Mr. a Mrs. Daniel Williams, gan ymsefydlu yn Steuben.

Ymbriododd a Mr. Pritchard yn 1848; a bu eu bywyd priodasol o dros haner canrif yn un dedwydd iawn. Yn 1863 symudodd y teulu o Turin, Sir Lewis, New York, i Wisconsin, a'r flwyddyn ganlynol i Mankato, Minnesota, o'r hwn le y symudasant i blwyf Vermillion, Sir Miner, South Dakota, yn 1884. Yr oeddynt yn byw yn Howard er 1892.

Bu Mrs. Pritchard farw yn ddiboen, megys un yn syrthio i drwmgwsg. Cafodd angladd parchus, y gwasanaeth angladdol yn cael ei gynal yn y capel Cynulleidfaol lle yr oedd yn aelod ffyddlon. Gweinyddwyd gan Mr. Hill.

Y Drych Mehefin 14eg 1900.