MRS. ANNIE PRITCHARD. RANDOLPH, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Medi 2ail, 1900, bu farw Annie, gwraig William Pritchard, Randolph, Wisconsin, a merch William ac Ellen Jones, Ty'n y ffordd, Llanfihangel, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Ganwyd hi yn 1868. Tair blynedd ar ddeg yn ôl gadawodd Gymru am Delaware County, Iowa. O Iowa aeth i Racine, lle y preswylia modryb iddi, sef Mrs. Capt. Davies.

Ymbriododd Mehefin 6ed, 1894, â William Pritchard, a symudodd y flwyddyn hono i Randolph i fyw. Bu yn nychu am tua dwy flynedd. Pythefnos cyn ei marwolaeth, aethai o dan operation am appendicitis. Gwellhaodd o hyny, ond cymerwyd hi ymaith gan ddarfodedigaeth yn yr ymysgaroedd.

Gadawodd i alaru ar ei hol heblaw priod a mab bychan, dri o frodyr yn Delaware Co., Iowa, ei mam, un brawd a thair chwaer yn Nghymru.

Claddwyd hi Medi 4ydd yn nghladdfa y dref, pryd y gweinyddwyd gan ei gweinidog. Ymaelododd yn yr eglwys pan yn 14 oed, a chadwodd i fyny ei phroffes hyd y diwedd. Bu yn ddiwyd ac ymroddgar i enill cartref iddi hi a'r teulu, a phan yr oedd hi a'i phriod ar sylweddoli eu gobeithion yn hyn, wele angeu yn ei symud o hono. Yr oedd yn aelod dichlynaidd o'r eglwys, a bu yn ffyddlawn iawn yn ngwyneb llawer o lesgedd gyda'i dyledswyddau cyhoeddus a chartrefol.

Dyoddefodd ei chystudd yn amyneddgar, a threfnodd ei thŷ yn ofalus cyn marw. Pryderodd a gweddiodd lawer yn ei dyddiau diweddaf am ei dyfodol ei hun mewn byd arall, ac am ddyfodol ei mab bychan yn y byd hwn. Enillodd barch cyffredinol yn mhob lle y bu yn aros ynddo, a theimlir colled ar ei hol.
J. R. JOHNS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1901.