MR. DAVID PRITCHARD. GRAND FORKS, BRITISH COLUMBIA.

White's Camp, P. 0., Medi 20fed, 1900. Dydd Sul diweddaf cafwyd un o'r enw David Pritchard yn farw yn ei wely mewn tref a elwir Phoenix, rai milldiroedd oddi-yma. Yr oedd yn gweithio yn y mwnglawdd y dydd blaenorol, ac aeth i'w wely fel arfer nos Sadwrn. Barnai meddyg mai achos ei farwolaeth oedd clefyd y galon.

Claddwyd ef yn barchus ddydd Llun yn mynwent Greenwood.

Brodor oeddi o'r Garnedd, Clynnog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac yr oedd yn 49 mlwydd oed. Y mae iddo frawd yn New South Wales, Awstralia, a chwaer yn Nghymru.

Ymfudodd i America yn ngwanwyn 1874. Bu yn aros y rhan fwyaf o'r amser yn ngweithfeydd glo Pennsylvania. Dychwelodd i Gymru yn mhen tua thair blynedd, a bu yn gweithio flynyddau fel creigiwr yn chwarelau Nantlle, yna bu yn gweithio am flynyddau yn y glofeydd yn St. Helens yn agos i Lerpwl. Dychwelodd i America yr ail waith yn 1887, ac yn fuan ar ol glanio yma cafodd ei anfon gan gwmni Americanaidd i Honduras, Central America, i agor gwaith arian. Wedi bod yno o ddwy i dair blynedd dychwelodd i Gymru yn bur wael ei iechyd, ac er iddo gael adferiad ni bu ei iechyd byth cystal a chynt. Dychwelodd i America y drydedd waith yn 1893, a bu am rai blynyddau yn mwngloddiau California.

Daeth i British Columbia yn Ebrill, 1898, ac o hyny hyd ei farwolaeth bu yn gweithio bron yn gyfangwbl yn y mwngloddiau aur a chopr a arolygir gan ein cydwladwr adnabyddus W. Yolen Williams yn Rossland a lleoedd eraill. Yr oedd yn weithiwr medrus fel glowr, fel creigiwr, ac hefyd gyda y peirianau tyllu a ddefnyddir yn y mines yma.
Ei gyfaill - Richard Jones.

Y Drych ~ Hydref 4ydd, 1900.