MR. EVAN W. PRITCHARD. SHERRARD, ILLINOIS.

Awst 10fed, 1900, yn Sherrard, Illinois, Evan W. Pritchard o'r darfodedigaeth, yn 48 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn y Garth, Brynfelin, ger Porthmadoc, Caernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn fab i William a Laura Pritchard.

Gweithio gyda'r ffarmwyr y bu nes tua 18 oed, wedi hyny yr aeth i'r chwareli yn Ffestiniog. Wedi bod yno am rai blynyddau, aeth yn ol i Borthmadoc i weithio mewn melin flawd, o'r hwn le yr ymfudodd i Fair Haven, Vermont, yn mis Mai, 1883. Gweithiodd yn y chwareli yno am rai blynyddau.

Ionawr 1886, priododd un Maria E. Wood o Trenton, New York; ar ol hyny buont yn trigianu yn Morgantown, Pennsylvania, Sumter, Alabama, a Dowlais, Kentucky, ac o'r olaf y daethant i'r lle hwn yn nechreu 1895. Yn y gweithiau glo y llafuriai ar ol myned o Vermont. Gweithiodd yma yn ffyddlon nes i'r streic dori allan yn Gorphenaf 1897, pryd yr aeth i Colorado at ei frawd Ellis, yr hwn oedd mewn maelfa yn Denver; yna aeth i weithio i'r gwaith glo yn Erie, Colorado, o anfodd ei frawd, a bu yno nes y cymerwyd ef yn wael.

Daeth ychydig yn well, a dychwelodd at ei deulu i'r lle hwn, ond yn nglyn a'r salwch crybwylledig, teimlai fod rhyw afiechyd wedi glynu yn ei ochr chwith, ac yn mhen ychydig ddyddiau cymerwyd ef yn sal iawn. Galwyd am y meddyg, yr hwn ddywedai ei fod wedi cael abcess mewn canlyniad i yfed dwfr anmhur, a gorfu arno fyned o dan operation, yr hyn a'i gwnaeth yn sal iawn am amryw o fisoedd.

Pa fodd bynag, daeth yn alluog i fyned o gwmpas, a chredai ei fod ar wellhad. Bu o dy i dy yn ceisio gwerthu llyfrau a patent medicine er cael ychydig i'w gynal ef a'i deulu, ond gwanychu yn raddol wnaeth, ac yr oedd yn gyfyngedig i'w dy er's tua deng mis.

Hunodd yn dawel a'i bwys ar ei waredwr Iesu ar ol cystudd caled, am yn agos i dair blynedd. Yr oedd yn ddyn tawel ac amyneddgar, yn hoffus a chariadlawn; yn gwmniwr dyddan, a hoffai bob amser siarad am enwogion, yn bregethwyr, yn feirdd, llenorion, a cherddorion. Cyfansoddodd lawer o benillion tlws, amrai o honynt, wedi ymddangos o bryd i bryd yn ei hoff bapyr y "Drych."

Yr oedd o dueddiadau moesol a chrefyddol iawn, a derbyniwyd ef yn aelod o eglwys A. Tabor pan yn lled ieuanc, dan weinidogaeth y Parch. Thomas Jones. Tebyg iddo oeri ac anghoflo llwybr ei ddyledswydd fel llawer eraill ar ol dyfod i'r America; ond pan yn ei salwch daeth i deimlo fod ei oriau olaf yn agoshau, ac wedi cael argyhoeddiad dan gymellion y diwygiwr enwog, y Parch. F. A. Miller, derbyniwyd ef yn aelod drachefn, a'i brofiad yn ei ddyddiau olaf oedd ei fod yn barod i gyfarfod a'i Dduw.

Gadawodd i alaru ar ei ol weddw a phedwar o blant - Willie Francis, 13 oed; Lily, 11 oed; Mabel, 8 oed; ac Edith yn 6 oed, heblaw llu o berthynasau yn yr Hen Wlad, ac un brawd yn Idaho Springs, Colorado.

Dydd Sul, Awst 12fed, ymgynullodd tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion, pryd y gwasanaethwyd yn y ty ac yn y capel gan ei weinidog, Parch. J. A. Griffin, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. V. W. Overton, U. B., a chladdwyd ef yn mynwent y lle.

Y Drych Medi 6ed, 1900.