MR. GRIFFITH PRITCHARD. SLATINGTON, LE HIGH, PENNSYLVANIA.
Slatington, Pennsylvania, Awst 31ain.Dydd Mercher, yr 22ain cyfisol, bu farw yr hen gymeriad Griffith Pritchard, gynt o'r Mynydd Glas, yn nhy ei ferch Mrs: John Pritchard, ar Washington Street, yn 68 mlwydd oed, gan adael chwech o blant i alaru ar ei ol.
Claddwyd ef ddydd Sul diweddaf yn Union Cemetery. Gweinyddwyd yn yr angladd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parchn. J. T. Griffiths, Lansford, a W. T. Williams, New York.
Bu yn aelod ffyddlawn a selog o eglwysi y Bedyddwyr yn Sardis, Llanberis, Gogledd Cymru, Upper Lehigh a Slatington.
Cafodd angladd lluosog. Ceir y manylion gan ei weinidog, y Parch. D. E. Richards, wedi ei ddychweliad o Gymru.
Y Drych Medi 6ed 1900.
MR. GRIFFITH PRITCHARD. SLATINGTON, LE HIGH, PENNSYLVANIA.
Fel yr hysbyswyd eisoes yn y "Drych," bu yr hen gymeriad uchod farw Awst 22ain yn 68 mlwydd oed, ar ol dyoddef cystudd caled o'r dyfrglwyf.Ganwyd ef mewn ty o'r enw Bryniau, Dinorwig, Llanberis, Gogledd Cymru, dydd Calan 1832. Enwau ei rieni ydoedd John a Elizabeth Pritchard.
Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan nad ydoedd ond 12eg mlwydd oed, a bedyddiwyd ef a'r diweddar Barch. John Seth Jones yr un Sabboth, gan y Parch. John Jones, 'Rhen Gloddiwr, yn nghapel Sardis, Llanberis.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1848, gan ymsefydlu yn y lle uchod, ond a elwid ar y pryd yn Lehigh. Ni fu ei arosiad yma y tro cyntaf ond tymor byr, pryd y dychwelodd i Walia Wen. Tra yn aros yn Nghymru ymunodd mewn glan briodas a Mary, merch Evan Owen, y Tai, Llanberis, yr hon a fu iddo yn gydmar teilwng, ac ymgeledd gymwys, yn ngwir ystyr y gair, hyd derfyn ei hoes, yr hyn a gymerodd le oddeutu pedair blynedd yn ol.
Bu iddynt luaws o blant, ond nid oes ond chwech yn aros i alaru ar ei ol. Yr oeddynt oll yma yn hebrwng ei weddillion i dy eu hir gartref.
Tair blynedd yn ol ymbriododd am yr ail waith a Mrs. Catherine Jeffreys, Freeland, Pennsylvanoia, yr hon a adawyd yn weddw.
Pymtheg mlynedd ar hugain yn ol daeth drosodd yr ail waith gan ymsefydlu yn mysg ei hen gynefin yma, yn yr hwn le y treuliodd y gweddill o'i oes, ag eithrio ychydig o wibdeithiau a fu yn ei hanes. Yn y cyfnod cyntaf o'i oes yn y lle hwn, y diweddar Henry Williams, Ysw., oedd yn teyrnasu fel brenin ar y llech-chwarelau; a theimlad ei weithwyr fel rheol ydoedd, "O frenin bydd fyw byth," ac nid oedd teimlad neb yn fwy angerddol yn y cyfeiriad hwnw na'r hen wron Griffith Pritchard, gan eu bod yn gyfeillion mynwesol ac egwyddorol.
Bu yn gweithio am dymor byr yn Upper Le-high, yn ngwasanaeth y diweddar William Powell, ac yr oedd wedi llwyddo i enill ymddiriedaeth trwyadl a serch y meistr da hwn. Byddent yn gyfeillion mawr bob amser. Treuliodd y rhan ddiweddaf o'i yrfa yn ngwasanaeth y Carbon Slate Co., Slatington, Pa., y rhai ni fuont yn ail i neb pwy bynag yn eu caredigrwydd a'u gofal am dano hyd awr ei ymddatodiad.
Meddai Griffith Pritchard gymeriad arbenig, ac nid oedd yn debyg i neb ond iddo ef ei hunan. Ceid ynddo gyfuniad hapus o'r elfenau gwerthfawr hyny ag sydd yn hanfodol angenrheidiol er cyfansoddi y dyn a'r boneddwr; a phe yn feddianol ar gyfoeth bydol buasai yn gynorthwy mawr i leddfu angen ac eisieu ei gymydogion. Ni fu erioed yn euog o gario dau wyneb; ac yr oedd yn ddiabsen am bawb. Meddianid ef gan ysbryd nodedig o faddeugar.
Eithriad yn ei hanes ydoedd edrych ar ochr dywyll unrhyw gwestiwn; ymddangosai pob peth yn ffafriol iddo mewn pob amgylchiad, ac oblegid hyny ni welwyd ol ei droed ar dir ameuaeth a digalondid. Ac am ei ffraethineb araethyddol mae canoedd o ddarllenwyr y "Drych" yn hollol hysbys, ac wedi cael llawer o fwynhad wrth wrando arno yn taflu bwledau poethion (fel y dywedai).
O ran ei gredo dduwinyddol yr oedd yn Fedyddiwr selog ac egwyddorol. Llanwodd amryw swyddau yn yr eglwys yr oedd yn aelod o honi yn ffyddlon, deheuig, a chyda boddlonrwydd cyffredinol. Yr oedd yn gyfranwr haelioous, ac ewyllysgar at bob achos teilwng. Nid oedd yn credu bod yn nyled neb o ddim. Gadawodd ddigon ar ei ol i dalu holl dreuliau y claddu.
Buasai ein heglwysi yn llawer tebycach i'r nefoedd pe byddai i bob aelod ynddynt ei efelychu mewn gonestrwydd. Yr oedd yn elyn trwyadl i anonestrwydd, o ba ffurf bynag y byddai, a pha le bynag y cyfarfyddai ag ef. Yr oedd yn gymydog tawel, a chymwynasgar, yn ddinesydd teilwng, ac yr ydym yn hyderu ei fod wedi cyraedd gwlad na ddywed yr un o'i phreswylwyr "claf ydwyf."
Am ddau o'r gloch Sabboth Awst 26ain, daeth tyrfa luosog yn nghyd i hebrwng gweddillion marwol yr hen frawd i'r Union Cemetery. Cynaliwyd yr holl wasanaeth yn y ty ac wrth y bedd, pryd y gwasanaethwyd. gan y Parchn. W. T. Williams, New York, a John T. Griffiths, D. D., Lansford, Pa., y rhai a grybwyllasant am y rhagoriaethau oedd ynddo. Teimlir hiraeth dwys am dano, a cholled ar ei ol gan yr eglwys yr oedd yn aelod o honi, ac yn arbenig ei frodyr a'i blant sydd wedi eu gadael yn amddifaid, ac yn galaru ar ei ol.
Yma y mae ei frawd John, a Robert yn Rolling Mill Hill, Wilkesbarre; ei fab John yn fasnachwr yn Pittsburg, Griffith yn Hazelton, tair merch yn Philadelphia, a'i ferch ieuengaf, Sarah, yn y lle hwn.