MR. RICHARD PRITCHARD. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Un o Sefydlwyr Cymreig Hynaf Middle Granville, New York.
Middle Granville, Mehefin 2ail. Heddyw, claddwyd yr hen gymydog a chyfaill Richard Prichard or lle hwn.Ganwyd a magwyd ef yn Cefn Ysgubell, Capel Curig, Sir Gaernarfon, 69 o flynyddoedd yn ol.
Pan oedd tua deunaw oed symudodd i ardal Bethesda, Arfon, i weithio yn chwarel y Penbryn, a bu yno am flynyddoedd.
Yn mis Mawrth 1857, ymfudodd i Middle Granville yma, lie y treuliodd weddill ei oes.
Ymbriododd gyda Catherine Williams, merch y diweddar William Williams, Turnpike, Pont y Dwr, gynt, yr hon sydd yma gyda phump o feibion, ac wedi claddu dwy ferch yn lled ddiweddar, ac felly yn gwybod yn dda pa beth ydyw aml i brofedigaeth. Heblaw hyny, mae y chwaer wedi goddef llawer iawn gan y crydcymalau, ac yn garcharor yn y ty ers yn agos i chwarter canrif, ac heb allu symud o'i chadair hyd yn nod pe bae tan yn dyfod ati. Er y cwbl mae yn ymddangos fel y gallai fyw am dymor maith eto.
Bu ei phriod yn dawel ac amyneddgar iawn am yr holl flynyddau yn ei chynorthwyo a'i gwylio pan y byddai hi dan arteithiau a phoenau y crydcymalau, ac felly rhwng pob peth rhedodd i lawr o ran ei iechyd. Aeth ei glyw hefyd yn ddrwg iawn; ond erbyn heddyw dyna y brawd Richard Prichard yn y beddrod, ac yno y gorphwys y rhai lluddedig.
Yr oedd y brawd wedi bod yn proffesu crefydd ar hyd ei oes gyda'r M. C., ac yn ddyn tawel, gwastad ei fywyd, a chymydog caredig; ond ychydig wnaeth yn gyhoeddus erioed gyda'r dyledswyddau cyhoeddus yn yr addoldy. Byddai yn ymarfer a'r ddyledswydd deuluaidd gartref, ac yn darllen llawer ar ei Feibl, yn nghyd a llyfrau da eraill.
Hefyd bu yn ymarfer llawer gyda chanu corawl, canys yr oedd yn faswr rhagorol, ac mae yma deimlad dwys o'i golli fel hen frawd crefyddol, ac un o'r hen ymsefydlwyr. Teimlad pawb ydyw ei fod wedi cael ei gymwyso drwy wahanol oruchwyliaethau rhagluniaeth a gras i gael etifeddu y deyrnas yr hon a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant Ef.
Nid hir y parhaodd ei salwch diweddaf, ac yr oedd yn ei ddyoddef yn dawel, gan ymostwng i ewyllys ei Dad nefol fel Cristion da. Adroddai lawer o adnodau a phenillion pan ar ei wely angeu, fel yr oedd yn hyfryd i fod wrth ei wely, a chael gweled pa fodd y gall plentyn Duw wynebu afon angeu. Hefyd gweddiai dros ei feibion dan eu henwau ar ei wely cyn eu gadael. Gobeithio y ceir gweled ffrwyth amlwg fel atebiad i'w weddiau.
Daeth tyrfa fawr yn nghyd o'r ardaloedd cylchynol i'w angladd, pryd y gweinyddwyd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parchedig William Edwards. Granville.
G. R. Davies.