MRS. SARAH ROWLANDS PRITCHARD. WELSH HILL, TURIN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.

Mai 29ain. ar ol misoedd o gystudd, bu farw chwaer-yn-nghyfraith i'r uchod, sef Mrs. Evan E. Pritchard, Welsh Hill, Turin. Lewis County, New York, gan adael ar ei hol briod ffyddlon a deg o blant, Thomas, Evan R., Noah a Henry yn Turin; John a William, Port Leyden; Mrs. Maggie Bliss, Rockwood, Oregon; Mrs. Anna Searl, Martinsburg; Mrs. Lillian Carpenter, a Miss Edith Pritchard.

Enw morwynol yr ymadawedig oedd Sarah Rowlands, a ganwyd hi yn Penboncyn. Plwyf Rhiw, Lleyn. Sir Gaernarfon, Ionawr 1af, 1830.

Ymfudodd i America Awst 30ain, 1851, yn fuan ar ol priodi Evan E. Pritchard; a ger Turin y treuliodd y gweddill o'i hoes.

Yr oedd yn wraig rinweddol ac yn fawr ei pharch yn yr ardal.

Gweinyddwyd yn ei hangladd y dydd Mawrth canlynol gan y Parch. E. C. Petrie. Yn mhlith y galarwyr yr oedd y Parch. D. E. Pritchard, Rome, brawd i'w phriod.

Y Drych Mehefin 14eg 1900.