MR. GRIFFITH PUGH. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Yn unol a dymuniad y teulu yr wyf yn anturio cymeryd gafael yn yr ysgrifbin i wneyd ychydig gofnodion am y cyfaill a'r Cristion cywir, Griffith Pugh, yr hwn fu farw oddeutu 7 o'r gloch nos Fercher, Rhagfyr 12fed, 1900.

Nid oedd iechyd ein cyfaill yn dda ers dros ddwy flynedd. Er iddo weithio cryn lawer ar ol hyny ar adegau, yr oedd ers rhai wythnosau i'w weled yn gwywo yn lled gyflym, a'r ddwy wythnos ddiweddaf ni bu allan o'r ty o gwbl, nac ond ychydig o'i wely. Am natur ei afiechyd nid yw yn hawdd dweyd. Y peth goreu allwn ddweyd yw mai rhyw gyfuniad o wahanol anhwylderau oedd, a phob un fel yn cynorthwyo naill y llall i'w gael i lawr. Modd bynag, byddai dan boenau mawrion ar adegau, y rhai a ddyoddefodd yn dawel a dirwgnach.

Brodor o Coris, Meirionydd, Gogledd Cymru, oedd yr ymadawedig. Cefnodd ar wlad ei enedigaeth gan wynebu ar y wlad hon er's yn agos i 32 mlynedd yn ol. Wedi byw yn Middle Granville am 14 mlynedd, symudodd ef a'i deulu i ardal Fair Haven lle yr arosodd, ac y bu yn fawr ei barch hyd y diwedd.

Y mae yn aros i alaru ar ei ol briod. un mab Robert, dilledydd yn Oneida, New York, a phedair merch - Kate, Mrs. D. Thomas (Llew Bowydd); Sarah, Mrs. Daniel Griffiths; Jane, Mrs. Morris Roberts; a Laura. Mrs. John Williams. Gallwn ddweyd yn ddibetrus na chollodd plant erioed dad mwy caredig a thyner galon, ac na chollodd gwraig erioed briod mwy ffyddlon a darbodus.

Hawdd yw canfod ar ei blant a'i briod eu bod wedi colli yr hwn oedd anwyl ganddynt. Yr unig gysur sydd ganddynt erbyn hyn yw eu bod wedi cael y fraint a'r pleser o weinyddu yr hyn oedd yn eu gallu tuag at esmwytho gwely cystudd yr hwn oedd anwyl ganddynt. Dyma y trydydd bwlch a wnaed gan angeu er pan maent yn yr ardal hon. Yn fuan wedi dyfod yma, claddasant Evan yn 21 oed, ac yn fuan wedi hyny bu farw eu hoff fachgen Griffith yn 17 oed; ond dyma y bwlch mwyaf o lawer.

Mae colli plant yn golled fawr ac anhawdd ei dwyn; ond mae colli tad tyner a phriod anwyl yn llawer mwy, a mwy anhawdd ei ddwyn.

Cafodd ein cyfaill gladdedigaeth luosog a pharchus dros ben prydnawn Sadwrn, Rhagfyr 15fed, pryd y gweinyddwyd yn ddymunol a theimladwy iawn gan y Parchedigion D. L. Williams, E. D. Humphrey, J. W. Morris, ac E. P. Thomas. Yr oeddynt oil yn dwyn y dystiolaeth uwchaf i'r ymadawedig fel dyn gonest a Christion cywir, a chredwyf nad oedd neb yn teimlo eu bod yn dweyd gormod, canys yr oedd felly mewn gwirionedd.

Clywsom lawer yn dweyd cyn hyn, "Os myni glod bydd farw." ond am ein diweddar frawd, yr oedd ef yn haeddu clod tra yn fyw yn gystal ag wedi iddo ein gadael. Dywedais wrth ryw wraig ddoe fod y teulu wedi gofyn i mi anfon tipyn o'i hanes i'r "Drych," a fy mod yn teimlo fy hun yn annheilwng iawn i wneyd hyny. "Wel," .dywedai hithau, "nis gallwch byth ganmol gormod ar Griffith Pugh," ac yn wir mae hyn wedi calonogi cryn lawer arnaf i ymwneyd a'r gorchwyl.

Wrth feddwl am ein brawd ymadawedig daeth yr adnod hono i fy meddwl sydd i'w gweled yn y 3 benod o Epistol Iago, "Eithr y ddoethineb sydd oddiuchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hyny heddychlawn, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd a diragrith." Dyma adnod gyfoethog. Sylwer ar y lluaws ansoddeiriau tlysion sydd ynddi. Yr wyf yn credu yn onest fod yr hen frawd a'n gadawodd yn feddianol ar y ddoethineb y sonia yr Apostol am dani, gan hyny mae'n rhaid ei fod yn feddianol ar burdeb oddifewn. Wedi hyny heddychlawn.

Dymunol fuasai gwneyd sylwadau pellach ar y gras gwerthfawr hwn, ond i ochel meithder. ni ddywedwn ond fod bywyd ein brawd yn profi ei fod yn feddianol ar heddwch o'r iawn ryw. Boneddigaidd eto. Y syniad gan rai am foneddwr yw, un yn meddu llawer o gyfoeth, ond nid dyna yw gwir ystyr y gair boneddwr, ac nid boneddwr yn yr ystyr yna oedd ein cyfaill, ond mewn ystyr llawer uwch. Yr oedd yn wir foneddwr gyda'i waith, fel y gall yr ysgrifenydd a'i gydweithwyr brofi hyny; yr oedd hefyd yn foneddwr yn ei deulu, ac yn wir foneddwr yn yr eglwys, yn gystal a'r Gyfrinfa Iforaidd.
GAN W. M. OWEN, FAIR HAVEN, VERMONT.

Y Drych Rhagfyr 27ain 1900.


MR. GRIFFITH PUGH. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Griffith Pugh, who had been ill with a complication of diseases for two weeks, died at his home on Allen Abenue Wednesday evening of last week at the age of sixty years.

Mr. Pugh had resided in this place for many years and was highly respected bu all who knew him. He was a faithful member of the Welsh Congregational church.

The deceased is survived by his wife, one sister, Mrs. Gomer Roberts of South Poultney; one son Robert Pugh of Oneida, New York, and four daughters, Mrs. John Williams, Mrs. David Thomas and Mrs. Daniel Griffin of this place, and Mrs. Morris Roberts of Poultney.

The funeral was held from the Welsh Congregational church Saturday afternoon. Rev. E. P. Thomas officiated.

The burial was in Cedar Grove cemetery.

Find a Grave.