MR. RICHARD PUGH. MARCY, NEW YORK.

Mai 26ain, 1900, yn Marcy, New York, ar ol salwch o'r pneumonia am ychydig ddyddiau, bu farw yr hen bererin Richard Pugh, yn 73 mlwydd 2 fis oed.

Ganwyd ef yn Dolgellau, Ionawr, 1827. Trigodd yn Marcy am 47 o flynyddoedd. Yr oedd yn aelod o eglwys Bethania, yn ddyn gweithgar a dinesydd parchus a defnyddiol.

Gedy weddw ac wyth o blant: Mrs. T. J. Bushnell, Chicago; Mrs. Fred. S. Aldridge, Rome; Mrs. Ellis D. Roberts, Utica; Miss Anna Pugh, Utica; Isaac Pugh, Hugh W. Pugh, Richard J. Pugh, Marcy; a John M. Pugh, Whitesboro, ac un ar ddeg o wyrion.

Claddwyd ef yn barchus ddydd Mawrth.

Wedi teithio'r anial dyrys,
Wedi teithio llwybrau Duw;
Yn ddisymwth at yr afon
Daeth y pybyr Richard Pugh;
Heddyw y mae wedi glanio
Yn y wlad lle nad oes clwy;'
Yn lle'r byd a'i fawr ofidiau
Moli fydd ei fywyd mwy.

Y Drych Mai 31ain 1900.