MRS. ELIZABETH ROBERTS. CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Ionawr 6ed, 1900, bu farw Mrs. Elizabeth Roberts, priod y diweddar ddiacon Morris Roberts, Jerusalem, Welsh Prairie.

Ni bu ei chystudd ond llai nag wythnos o amser. Ei hafiechyd oedd y parlys.

Ganwyd hi Chwefror 15fed, 1813, fel yr oedd hi yn 87 mlwydd oed. Enwau ei rhieni oedd John a Margaret Davies, Ty Du, Nant Isaf, Llanberis, Gogledd Cymru.

Yn 1834 seliwyd cyfamod priodasol rhyngddi a Morris Roberts, mab yr hen bererin enwog Robert Rowland, Pen y Bryn, Llanberis. Y pryd hwnw nid oedtìì y naill na'r llall yn aelodau eglwysig. Cyflwynodd hi ei hunan i'r Methotìistiaid yn 1840. Profodd yntau argyhoediad llym o dan weinidogaeth yr anfarwol Barch, John Elias. O hyny allan bu eu cartref. yn un wedi ei gysegru a gwasanaeth i Grist, a llwyddodd y rhieni i godi y plant oll ar fynwes yr eglwys, nes cyraedd cyflawmder oedran.

Yn 1846 ymfudasant i America, gan ymsefydlu ar Welsh Prairie. Os mai gwlad newydd, brin ei chyfleusderau oedd yr adeg hono, llwyddodd y teulu i ddringo i amgylchiadau cysurus yno, mewn cartref hyfryd.

Ganwyd iddynt chwech o blant yn Nghymru, a thri yn America, pump o ferched a phedwar o feibion. Dechreuodd' y rhai hynaf adael cartref, un ar ôl y llall, i sefydlu mewn teuluoedd eu hunain. Oni bai am waith angeu, buasai y teulu wedi ymagor i naw o deuluoedd cyn marwolaeth Mrs, Roberts. Y bwlch cyntaf agorwyd yn y teulu oedd marwolaeth y tad, Ebrill 18fed, 1883, wedi iddo fod yn aelod ffyddlawn o'r eglwys am 41 mlynedd, a bu yn gwasanaethu fel diacon am y 11 mlynedd olaf o'i oes.

Bu Mrs. Roberts yn yr hen gartref hyd nes i'w mab Griffith golli ei briod, Mehefin 6ed, 1892. O hyny hyd y terfyn, ymgartrefodd gyda ei merch yn Cambria, yr hon sydd yn awr yn briod â Mr. William Ap Jones.

Mai 24ain, 1899, bu farw ei merch ieuengaf, oedd yni briod â Mr. John R. Lloyd, yn Liverpool, pan ar ei ffordd i ymweled â Chymru. Bu chwerwed y brofedigaeth o'i cholli, i'r fam fel y teulu oll, ni bu raid iddi hi hiraethu yn hir cyn cael ei galw ei hunan i'w dylyn.

Claddwyd Mrs. Roberts prydmawn dydd Llun, Ionawr 8fed, 1900. Yr oedd y dorf fawr oedd yn bresenol yn awgrym eglur am y safle barchus a feddai yn syniad yr holl ardaloedd.

Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parchn. John O. Parry, R. M. Williams a John R. Jomes.

Yn ei marwolaeth fe gollwyd un a fu yn fam nodedig yn ei thynerwch a'i gofaJ, priod lawn goehelgarwch a ffyddlondeb, cymydoges gymdiethasgar a thangnefeddus, a hen Gristion a gafodd ras i ddylyn yr arch gyda dyfalwch a ffyddlondeb am agos i 60 mlynedd. Yr oedd hi yn un o'r ychydig fyddai yn amcanu dylyn moddion gras gyda chysondb, ac yn gwneyd ei rhan at gynal y gyfeillach eglwysig, trwy barotrwydd syml i adrodd ei phrofiad yn gwbl rydd a dirodires. "Un o heddychol ffyddloniaid Israel" ydoedd yn ddiau.

Bydd ei lle ym wag iawn i'r plant a'r perthynasau y teimlai y fath ddyddordeb ynddynt, a theimla ei chyfeillion a'i chydnabod yn chwith a hiraethus ar ei hol. Am dani hi, nid oes ameuaeth na phrofodd marw yn elw iddi.
Hen Gymydog.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1900.