MRS. ELIZABETH ROBERTS. BIG ROCK, ILLINOIS.
Chwith iawn genym gofnodi yma am farwolaeth annysgwyliol un o hen chwiorydd defnyddiol y fam eglwys Gymyn y lle hwn, sef Mrs. Elizabeth Roberts gweddw y diweddar ddiacon Rowland Roberts, yr hwn amgylchiad a gymerodd le ar y 25ain o Awst diweddaf.Yr ydoedd ein hen chwaer, er wedi cyraedd 78 mlwydd oed yn mwynhau nerth a iechyd da, ac yn alluog i fod o amgylch ei dyledswyddau teuluaidd hyd o fewn rhyw wythnos o amser i'w marwolaeth. Daeth y clefyd hafol heibio iddi ac effeithiodd ar ei chalon. Wedi cystudd trwm am ychydig ddyddiau hi a hunodd yn dawel yn yr angeu. Oddiar pan y collodd ei phriod ychydig dros flwyddyn yn ol, hi rentiai ei thyddyn, gan wneyd ei chartref gyda ei merch, a'i mab-yn-nghyfraith, sef David Ll. Jones, lle cafodd bob ymgeledd a gofal tyner amdani.
Merch ydoedd Mrs. Roberts i Hugh Ellis a'i briod, Ty'n Simdda, Llanfachraeth, ger Dolgellau, Gogledd Cymru. Priododd yn ieuanc gyda Rowland Roberts o Llanuwchllyn. Bu iddynt amryw blant, ond dau yn unig sydd wedi eu goroesi, sef y Parch. Robert Roberts, gweinidog Cynulleidfaol yn Portland, Iowa, a Mrs. David LI. Jones, Big Rock.
Bu y teulu yn byw flynyddau yn Arthog, ger Dolgellau. Oddiyma symudasant i Ffestiniog. Yn ngwanwyn 1884 ymfudasant i America, gan ymsefydlu yn Big Rock, IIIinois, lle yr oedd eu mab Robert newydd gael ei ordeinio i'r weinidogaeth, ac yn gwasanaethu yr eglwys Gymreig. Yr oedd Mrs. Roberts wedi ei chodi fyny o'i mebyd yn grefyddol, ac yn hanu o deulu parchus a chrefyddol. Cadwodd ei choron yn ddysglaer hyd y diwedd.
Cafodd gladdedigaeth barchus, a rhoddwyd ei gweddillion i orwedd wrth ochr eiddo ei phriod a'i mab John yn yr hen fynwent Gymreig. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd a'r Parch. J. Gammon.