MRS. ELLEN ROBERTS, LAKE CRYSTAL, LAKE CRYSTAL COUNTY, MINNESOTA.
Nos Wener, Tachwedd 30ain, 1900, bu farw y fam uchod, yn nghartref ei mab, Peter Roberts, Cambria, Minnesota.Yr oedd Mrs. Roberts yn cael ei blino er's llawer o flynyddoedd gan wendid a diffyg anadl. Gweddw ydoedd i'r diweddar Barchedig Grifflth Roberts.
Ganwyd Mrs. Roberts yn Penmachno, Gogledd Cymru. Yr ydoedd yn 86 mlwydd oed. Ymunodd mewn priodas a'r diweddar Barchedig Griffith Roberts yn 1843.
Ganwyd iddynt naw o blant, saith o ba rai sydd yn fyw, sef John G. a Thomas G. Roberts, Denver, Colorado; Mrs. Ellen Edwards, Old Man's Creek, Iowa; Peter Roberts, Cambria, Minnesota.; Mrs. Mary Shields, Mankato; Robert G. Roberts, Lake Crystal; a Griffith Roberts, Judson; Richard a Mrs. Jane S. Jones wedi marw. Daethant i'r wlad hon yn 1845, gan ymsefydlu yn Nhalaeth Wisconsin. Buont hefyd yn cartrefu am flynyddoedd yn Long Creek, Iowa, yna yn Minnesota, lle bu y Parchedig Griffith Roberts am 14 o flynyddau yn gofalu am eglwysi Horeb a Bethel. Wedi hyny symudasant i Lake Crystal, lle yn y flwyddyn 1897 y bu farw y Parch. Griffith Roberts.
Yr oedd llawer o bethau rhagorol yn nodweddu ein hanwyl chwaer. Bu yn ei dydd yn nodedig am ei gweithgarwch. Bu yn briod ffyddlawn a darbodus, yn fam dyner a gofalus. Nodweddid ei hysbryd gan naws crefyddol. Byddai yn siarad llawer am grefydd, ac yr oedd yn hawdd deall ei bod yn ymhyfrydu yn y fath ymddyddanion. Pethau crefydd oedd ei phethau, ond o herwydd gwendid nid oedd yn alluog i fod yn bresenol yn y moddion. Teimlai ddyddordeb dwfn yn llwyddiant yr achos. Elfen arall yn ei chymeriad oedd di-dwylledd. Ni wnai ragrithio i neb, ond dywedai yn onest yn wyneb pob un yr hyn oedd yn feddwl.
Y mae yn dda genyf gael cyflwyno y sylwadau canlynol o eiddo y diacon Richard Roberts, Horeb, yr hwn gafodd fantais i adnabod y chwaer Mrs. Roberts: "Mae yn dda genyf gael cyfleusdra i daflu gair i mewn i gofiant yr hen chwaer Mrs. Roberts, gan fy mod yn hynod hoff o honi hi, a'r hen frawd Roberts, ac yn ei hadnabod y 30 mlynedd olaf o'i bywyd, ac wedi byw y drws nesaf am 14 o flynyddoedd.
Yr oedd y Parch. Griffìth Roberts yn wahanol i bawb, felly yr oedd hithau. Yr oedd natur fel wedi gwneyd eithriad, er mwyn ei gwneyd yn ymgeledd gymwys i'r hen frawd. Ni wnaethai neb arall y tro iddo ef, na neb iddi hithau ond efe. Pan oedd Mrs. Roberts heb lawn gyraedd yma o Iowa, daeth Griffith Roberts yma ddiwrnod yn mlaen, ac fe roes ddesgrifiad i mi pa fath ydoedd yr hen wraig, ac wedi crybwyll am amryw o'i gwendidau, a rhag ofn i minau dynu camgasgliad, dywedodd, 'Ond hen wraig go glyfar yw hi ar y cyfan ac ni ddywedodd yr hen frawd erioed fwy o wir mewn mor ychydig o eiriau. Hen wraig glyfar oedd hi. Yr oedd hi yn hollol y peth oedd yr hen frawd Roberts angen am dano. Yr oedd ef yn ymylu ar fod yn llwfr. Os tarewid ef ar un rudd, fe droai y llall iddo, ond nid oedd dim perygl na byddai y rudd hono yn ddigon iach a diglais. Mi fyddai yn hwyr i'r tarawydd wneyd am ei fywyd i ddinas noddfa, ac os na byddai hono yn lled agos, a'r ffordd yn lled wastad, mi fyddai yr hen chwaer yn lled sicr o'i ddal, a gwae ef.
Yr oedd yn hynod ffyddlawn i'w ffryndiau, ni wn i ddim beth oedd hi i'w gelynion, ni welais yr un o honynt; nid oedd yn yr ardaloedd hyn gymaint ag un yn byw, ond ni fuaswn i yn hoffi bod yr un o honynt. Yn wir nid ydyw gwraig ag sydd mor ddiniwed a gadael i bob cigfran dynu ei llygaid hi a'i phriod, ddim yn werth i brynu modrwy i'w phriodi. Yr oedd yr hen chwaer yn meddu y gallu i gau un llygad ac agor y llall, cystal a'i phriod, ac fe welai yn mhellach na llawer oedd a'u llygaid yn agored. Pan awn i'r tŷ weithiau, fe fyddai wedi hel myrdd o feiau, a gosodai hwy i gyd ar gefn Griffith Roberts. Fe ddywedwn inau ei bod yn rhoi pethau iddo nad oedd yn perthyn iddo, a dyna hi yn ddadl, a minau yn gyffredin fyddai yn enill y dydd, a'r canlyniad ydoedd cwpanaid o de yn dal am y fuddugoliaeth.
Mi gefais lawer noswaith ddifyr gyda'r ddau. Y mae arnaf hiraeth, ac unigrwydd yn pwyso yn drwm arnaf ar eu hol. "Bu farw a'i hymddiried yn gwbl ac yn hollol yn yr Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a wasanaethodd yn ffyddlawn, mewn gwahanol gylchoedd, am lawer o flynyddau.
Prydnawn y Sul canlynol, ar ôl gwasanaeth byr gan y brawd William C. Rowlands, symudwyd y gweddillion i'w chartref yn Lake Crystal. Prydnawn Llun cymerodd y claddedigaeth le, yr hwn oedd yn lluosog a pharchus. Gwasanaethwyd gan y Parchn. William H. Jones, Wm. E. Evans a D. Edwards. Nos Sabboth canlynol traddodwyd pregeth goffadwriaethol gan weinidog yr eglwys.
Cydymdeimlir a'i phlant yn y brofedigaeth o golli eu hanwyl fam — D. Edwards.