MR. JOHN THOMAS. WEST PAWLET, RUTLAND, VERMONT.
DAMWAIN ERCHYLL YN WEST PAWLET.
West Pawlet, Vermont. Chwefror 19eg.Dydd Iau dygwyddodd un o'r damweiniau mwyaf dychrynllyd mae cofnodiad o honi mewn perthynas a llech chwarelau Vermont, i John bach, mab Thomas Roberts, 13 mlwydd oed, mab Robert Roberts, gof, Braichmelyn, Bethesda. Arferai John redeg engine yn un o chwarelau Rising and Nelson, ac ymddengys yn ol yr arwyddion nad oedd y wire-rope yn dirwyn fel y dylasai am y drum, ac iddo yntau gymeryd pren i'w gwthio i'w lle. Yn ol a ellir gasglu, llithrodd y pren, a syrthiodd yntau o dan y wire rope, nes y maluriwyd ef yn ddychrynllyd, a buwyd am tua awr a haner yn ei gael yn rhydd.
Ganwyd John yn Pen y Cae, Gorchwillan, Bethesda, Ebrill 14eg, 1887.
Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni yn 1892.
Yr oedd John gyda plant y Band of Hope yn cael ride y nos Sadwrn blaenorol, ac yn cael ei hebrwng i dy ei hir gartref yn mynwent West Pawlet yn mhen yr wythnos. Gwasanaethwyd yn yr angladd gam y Parch. W. Edwards a phlant y Band of Hope, o'r hon Gymdeithas yr oedd yn selog iawn.
Cydymdeimlir a'r teulu trwy yr ardal yn eu profedigaeth chwerw. Dymunir ar i bapyrau Cymru godi yr uchod.
Llifonwr.