MR. RICHARD E. ROBERTS. SLATINGTON, LE HIGH, PENNSYLVANIA.

Bu farw Richard E. Roberts prydnawn ddydd Mawrth y 3ydd, o'r darfodedigaeth, yn 53 mlwydd oed. Cafodd gystudd maith, ond nid ydoedd yn boenus iddo hyd i'r diwedd.

Ymfudodd i'r ardal hon o Mynydd y Cilgwyn, yn agos i Lanllyfni, Sir Gaernarfon, 34 mlynedd yn ol. Byddai gwrando arno yn adrodd yr hanes yn ddyddorol iawn. Cymeriad nodedig iawn ydoedd y Cilgwyn; yr oedd yn llawn o'r elfen gymdeithasol. Fel dyn yr oedd yn ddarllenwr mawr, ac mewn canlyniad yr oedd wedi diwyllio ei feddwl yn anghyffredin. Byddai ei farn yn gymedrol ar bob cwestiwn. Yr oedd yn fardd da, ac mae tystiolaeth ei gydfrodyr barddol yn ddigon ar hyn.

Ystyrid ef yn weithiwr tawel a gonest. Fel cyfaill, elfen gref ynddo ydoedd ei gyfeillgarwch, ac yr wyf braidd yn sicr ei fod, yn hawlio hyn iddo ei hun. Yr oedd yn bur, ffyddlawn a chywir. Yn wir, ni fynai gydymffurfio a neb i redeg ei gyd-ddyn i lawr, pwy bynag fyddai y cyfryw.

Fel Cristion, yr oedd yn flaenor parchus gyda'r Annibynwyr, ac yr oedd cymwysderau neillduol ynddo i'r gwaith. Yr oedd yn ffyddlawn i'r cyfarfodydd hyd y medrodd gan ei iechyd. Gallai gyfeirio at bob amgylchiad o bwys yn yr eglwys, "Yr oeddwn i yno." Byddai bob amser yn ymgeisio at foddhau pawb; ni wn am neb fu mor llwyddianus yn y gwaith anhawdd na Richard Roberts.

Byddai ganddo brofiad crefyddol gwastad, a hwnw yn hollol gyson a'i fywyd ymarferol. Dyma'r profiad gariodd hyd i'r diwedd. Y cyfle olaf gawsom i gael gair gydag ef yn y cyfeiriad yma ydoedd nos Sul, pan yr oedd braidd yn rhy wan i siarad. Gofynwyd iddo beth ydoedd yn ei feddwl o'r gwaethaf pe dygwyddai, "All right," meddai, "mae coron cyfiawnder wedi ei rhoddi i'w chadw i mi." Ac nid oes neb o honom yn ameu hyny chwaith.

Heddwch i'w lwch.

Yr oedd wedi erfyn arnaf anfon ei ddiolchgarwch i wahanol gwmniau y chwarelau yma, pob un wrth eu henwau, am eu caredigrwydd yn cofio am dano ef a'i deulu tra y bu yn gystuddiol. Derbynied y cyfryw hyny trwy hyn o gyfeiriad.

Y Drych ~ Ebrill 19eg 1900.