MR. RICHARD ELLIS ROBERTS. UTICA, NEW YORK.
Richard Ellis Roberts, Brodor o Lanllyfni, yn cael ei ladd pan wrth ei waith fel Motorman ar y Belt Line. Utica New York, Ionmawr 23ain 1900. - Tua 10 o'r gloch nos Wener, yn nghanol y niwl a'r tywyllwch, rhedodd dau o gerbydau y Belt Line i'w gilydd o flaen capel Presbyteraidd Whitesboro, gyda'r canlyniad galarus o achosi angeu y Cymro ieuanc parchus, Richard Ellis Roberts, y motorman ar y cerbyd teithwyr o Utica, mewn modd echrydus iawn. Drylliwyd ei ddwy goes uwchlaw y fferau; ac yr oedd yr olwg ar y truan, yn wasgedig rhwng y malurion, yn galon-rwygol i'r eithaf.Parhaadd Mr. Roberts i raddiau yn ymwybodol, a llefai yn dorcalonus "0 fy nhraed" ac "'0 fy mam a nhad!" Gwnawd pob brys dichonadwy i'w ryddhau a'i gludo i gyfferdy Dr. W. W. Jomes, gerllaw, lle y torwyd ei draed gan Dr. W. James, yn cael ei gynorthwyo gan Dr. Jones a Dr. C. T. Haines. Ystyriai y meddygon yr achos yn un ddfrifol o'r dechreu, eto gobeithient y gallai y truan ddal y driniaeth, trwy ei fod yn ddyn ieuanc iach, a chryfach na'r cyffredin; pa fodd bynag, anadlodd ei olaf am 2:05 yn y bore.
Mab ydoedd. y llanc anffodus i Morris ac Ann Roberts, Dolgau, Llanllyfni, Arfon, lle ganwydl ef 25 mlynedd yn ol; ac mae iddo frawd yno.
Yr oedd bob amser yn gynil a darbodus, ac o gymeriad da. Ymfudodd i America yn Mawrth 1899; a bu yn gweithio gyda J. Hughes Jones, New Hartford a William Pritchard, am rai wythnosau; yna fel glanhawr cerbydau y New York Central. Tua thri mis yn ol, trwy ddylanwad Alderman Richard R. Roberts (brodor o'r un ardal ag yntau) cafodd le fel motorman ar y Belt Line R. R.; ac ystyrid ef yn weithiwr penigamp. Bu yn byrddio gyda Hugh Williams, Lafayette Street, hyd tua deufis yn ol; pryd y symudodd at Mrs. Hannh Jones, rhif 92 ar yr un heol.
Prydnawn Sul, yn nghapel Cymreig New York Mills, cynaliwyd gwasanaeth angladdol hynod o barchus i'r ymadawedig. Yr oedd y capel yn orlawn; ac yn mhlith eraill yr oedd yn bresenol Mr. Boyle, llywydd cwmni y Belt Line, a lluaws o'i gyd-weithwyr; hefyd perthynas iddo o Sir Madison.
Gweinyddwyd gan y Parch. R. G. Jones, D. D.; a chanwyd darnau priodol gan Gor Moriah, Utica, dan arweiniad W. R. Thomas.
Yr oedd yr arch wedi ei gorchuddio, a blodau prydferth. Dodwyd y gweddillion i orphwys yn mynwent New York Mills.
Cynelir y trengholiad yr wythnos hon, pryd y ceisir cael allan yn mha le y gorphwys y cyfrifoldleb am y ddamwain.