MR. ROBERT C. ROBERTS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Dydd Gwener, Awst 10fed, 1900, yn ei gartref, 224 Miller Street, Utica, bu farw ein hen ohebydd galluog, Robert C. Roberts, yn 61 mlwydd mlwydd, 2 fis a 25 niwrnod oed.

Rhyw dair wythnos y bu yn cadw ei wely, ond ymddengys fod cancr yn y cylla yn bwyta ei nerth yn raddol er's misoedd.

Ganwyd Mr. Roberts yn y Bala, Mai 14eg, 1839, ond daeth i'r wlad hon yn 1852.

Yn amser y rhyfel cartrefol ymrestrodd fel aelod o Company F, 26th New York Volunteer Infantry; ac ar derfyn y rhyfel yr oedd yn awyddus i ail ymuno a'r fyddin, i'r hyn nid oedd ei dad Cadwaladr Roberts, yn foddlon, gan ei fod eisoes wedi colli dau fab yn y fyddin.

Felly aeth Robert C. i California, a bu yn gweithio yn y mwngloddiau am ddwy flynedd.

Yn 1866 priododd Miss Elizabeth Roberts o Utica, prynodd fferm yn Deerfield, ac yno y bu yn byw hyd 1895, pryd y prynodd dy yn Utica, ac y daeth yma i ddiweddu ei oes. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys Moriah ac Ysgol Sul Peniel; hefyd o'r Post Bacon, G. A. R., a bu un tymor yn llywydd yr Oneida County Veterans' Association.

Yr oedd o gymeriad pur, yn elyn anghymodlawn i'r fasnach feddwol a'r tobaco, yn ddarllenwr mawr, ac yn llenor Cymreig a Seisnig rhagorol. Teimlir chwithdod. amdano mewn llawer cylch.

Gadawodd ar ei ol wraig, pedwar o blant - Mary K., Robert E. Roberts a Mrs. Isaac Humphrey o Utica, ac Edward C. Roberts o South Trenton; hefyd, dau frawd, Richard P. o Mankato, Minnesota, a Reynold C. o Lake Crystal, Minnesota, a chwaer, Mrs. M. J. Meredith, Holland Patent.

Cafodd angladd anrhydeddus prydnawn dydd Llun, y Parch. E. G. Williams, Remsen, hen gyfaill i'r teulu, yn gweinyddu. Yr oedd cynrychiolaeth o'r hen filwyr yn bresenol.

Yr archgludwyr oeddynt D. P. Salisbury, Joseph Watkins, John Williams a W. Hughes. Claddwyd ef yn Forest Hill Cemetery.

Y Drych Awst 16eg 1900.