MR. THOMAS T. ROBEDRTS. PLANO, BROWN COUNTY, SOUTH DAKOTA.

Mawrth 25ain, 1900, yn Plano, Brown County, South Dakota, ar ol cystudd o saith mlynedd, Thos. T. Roberts, yn 41 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Bethesda, Arfon. Mab ydoedd i Thomas Roberts, yr hwn sydd yn ddiacon yn Brynteg, a nai i Robert T. Roberts, Mint, San Francisco.

Ymfudodd i'r wlad hon yn ngwanwyn 1887. Bu yn ardal Waukesha, Wisconsin, am amser byr, yna Oshkosh, hyd nes yr aeth i California. Bu yno amryw flynyddau yn gweithio yn y mwngloddiau. Cafodd anwyd yn San Francisco yn 1893, ac yn meddwl y buasai hinsawdd sych Dakota yn foddion i'w adferu, aeth yno yn 1894, ond yr oedd yr hen glefyd, wedi gafael ynddo. Er arfer pob moddion o fewn ei gyraedd nid ymadawai ag ef. Dyoddefodd ei gystudd yn dawel.

Darllenai lawer ar y Beibl a llyfrau da eraill, ac mae'n ddiameu gan y sawl a'i hadwaenai iddo farw yn yr Arglwydd. Y mae amryw o'i hen gyfeillion yn Oshkosh a California ag y byddi yn ddrwg ganddynt glywed am ei farwolaeth.

Y mae iddo. ddau frawd yn Minneapolis, sef William a Robert, a dwy chwaer yn Dakota, sef Mrs. Robert Roberts, Sisseton, a Mrs. J. W. Owens, Plano.

Claddwyd ef yn mynwent Bath, y Parchn. T. R. Jones a W. Machno Jones yn gweinyddu, yn y ty ac ar lan y bedd.
Ei frawd W.

Y Drych Ebrill 26ain 1900.