MRS. ANN THOMAS. FAIR HAVEN, VERMONT.
Dyma y newydd fod yr hen wraig Mrs. Ann Thomas wedi tynu ei hanadl olaf. Ni chafodd hi gystudd maith na thrwm, ond teimlai yn lled wanaidd ers amser maith. Pe buasai yn cael byw hyd Mai nesaf, buasai yn 77 oed, felly gellir dweyd mai henaint a gwendid oedd achos ei marwolaeth.Gweddw oedd yr ymadawedig. Priododd ei gwr cyntaf, Richard Pace, pan yn ieuanc. Bu ef farw yn 1853, a daeth hithau a'i merch i America yn 1862. Yn mhen rhai blynyddau priododd John Thomas, yr hwn yntau fu farw yn 1871.
Ar ol hyny gwnaeth yr ymadawedig ei chartref gyda i merch, gweddw Griffith Jones y cofnodwyd ei hanes yn hyn o lythyr; felly dyma ddwy farwolaeth yn yr un teulu yn nghorff llai nag wythnos, yr hyn sydd yn brofedigaeth chwerw iawn i Mrs. Jones, sef colli priod a mam o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd.
Er hyn oll gallasai fod yn llawer gwaeth, oblegid mae hi wedi gorphen magu ei phlant, ac yn ol y deallwn, yn gysurus ei hamgylchiadau.
Nodweddion mwyaf amlwg ein diwedder chwaer oedd ei synwyr cyffredin a'i boneddigeiddrwydd; yr oedd yn gryf yn y naill a'r llall.
Ganwyd a magwyd hi mewn ffermdy o'r enw Dinas, ger Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru. Yr oedd nifer luosog o blant yn perthyn i'r teulu hwn, y rhai a gawsant oll ddygiad, da i fyny; ond erbyn hyn y maent oll wedi cefnu ar y byd ag eithrio y mab ieuengaf Hugh, yr hwn sydd yn yr hen gartref yn Nghymru.
Claddwyd gweddillion Mrs. Thomas dydd Sadwrn diweddaf, pryd y gweinyddwyd, yn nghapel y T. C., lle yr oedd hi yn aelod, gan y Parch. E. P. Thomas.