MR. EVAN J. THOMAS. ENLLI, NEW YORK.

Ganwyd gwrthrych hyn o linellau yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Mai 15fed, 1818.

Daeth i'r wlad hon, fel y dywedai yn chwareus, "cyn gynted ag y gallodd," pan yn bedair wythnos oed gyda'i rieni, y rhai a sefydlasant yn French Road, Steuben, New York, y pryd hyny yn anialwch coediog.

Ar ôl ychydig flynyddau symudodd y teulu i blwyf Trenton ar y fferm a ddaeth wedi hyny yn feddiant i'w frawd James Thomas.

Yr oedd Mr. Thomas yn un o wyth o blant, o ba rai y mae tri yn fyw, John yn Jersey City, Mrs. Thos. Williams, Floyd, a Mrs. John James, Remsen.

Yn Tachwedd, 1842, priododd Margaret, merch i Richard D. a Sarah James, Trenton, pobl gyfrifol a chrefyddol, yn Fedyddwyr selog, ac i'r ffydd hon y derbyniwyd Mrs. Thomas, a chyda hwy y daliodd ei haelodaeth yn dawel a chyson hyd ddydd ei marwolaeth yn 1892, gan bob amser arddangos ysbryd gwir grefydd trwy lynu yn ei phroffes ei hun, a rhoddi rhyddid cydwybod i'w phriod, pan y daeth at grefydd, i ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd yn Enlli.

Ar ôl priodi aethant i fyw i'r hen gartref yn French Road, ond symudasant yn fuan ar fferm rhieni Mrs. Thomas yn agos i Prospect Station, ac yn mhen tair blynedd, 45 mlynedd yn ôl, prynasant fferm yn Enlli, lle y treuliasant weddill eu dyddiau. Ganwyd iddynt bump o blant, ond nid oes yn aros ond yn unig Sarah, gwraig Mr. Owen Thomas, yr hon, yn nghyd a'i phriod, a fuont yn hynod o dyner a gofalus o Mrs. Thomas yn ei chystudd blin, ac o Mr. Thomas yn ei henaint a'r brofedigaeth a gafodd o golli ei olwg.

Cymerodd hyn le tua thair blynedd yn ôl. Bu yn drallodiedig iawn arno yn herwydd hyn, ond daliodd heb rwgnach na dywedyd dim yn ynfyd yn erbyn yr oruchwyliaeth. Teimlai ddyddordeb mawr yn mhob peth a gymerai le, a chadwai ei hun mewn cyffyrddiad a dygwyddiadau y dydd mewn byd ac eglwys.

Yn niwygiad Humphrey Jones, fel ei gelwid, y cafodd ei ddwyn at grefydd, ac ymaelododd â phobl yr Arglwydd yn Enlli, lle y cafodd y fraint o fod yn un o'r colofnau fu yn cynal yr achos yno yn y nos, a ohafodd fyw i weled y wawr yn tori ar yr eglwys fechan hono. Bu ei fywyd crefyddol yn gyson a didramgwydd. Nid oedd yn siaradiwr mawr, ond yr oedd yn ddyn o synwyr cyffredin cryf, ac amlygai hyny yn ei ymddyddanion crefyddol a'i weddiau taerion a gafaelgar.

Cyfranai yn dda at bob achos teilwng, ac nid yn aml y ceid ei ffyddlonach gyda phob moddion o ras. Meddyliai yn fawr o'r Ysgol Sabbothol, ac ni thybiai yn ormod gorchwyl am flynyddau i gerdded (rhwng myned a dyfod) rai milldiroedd er mwyn cael mwynhau ei breintiau.

Yr oedd yn wrandawr effro a deallus. Yn ei gymdogaeth yn ddyn tawel, di-gyffro a chymwynasgar. Yr oedd yn gyfaill trwyadl, ac yn eirwir a gonest i fanyldra. Barn pawb a'i hadwaenent oedd ei fod yn Israeliad yn wir yn yr hwn nid oedd dwyll.

Ni fu ei gystudd ond cydmarol fyr, ac ar y 5ed o Ionawr, 1900, ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef.

Y 9fed daeth tyrfa anarferol o fawr i'r gwasanaeth crefyddol, yr hwn a gynaliwyd yn y tŷ, y Parch. E. C. Evans a'r ysgrifenydd yn pregethu, a Miss Rayner yn darllen a gweddio.

Claddwyd ef yn mynwent Fairchild. Bendithied Duw y galarwyr yn ôl mesur eu bendithion tymorol.
E. G. Williams.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1900.


MR. EVAN J. THOMAS. ENLLI, NEW YORK.

Ionawr 5ed, 1900, yn ardal Enlli, plwyf Remsen, New York, pan yn 81 mlwydd. 7 mis, ac 20 diwrnod oed, yr hen gyfaill parchus Evan J. Thomas, ar ol byr gystudd. Yr oedd wedi colli ei olwg er's tua thair blyaiedd.

Collodd ei briod yn 1892, ac yr oedd colli ei olwg yn ddylynol yn mawr ychwanegu at ei brofedigaeth.

Ganwyd ef yn Sir Gaernarfan. ond ymfudodd ei deulu i'r wlad hon pan yr oedd yn bedair wythnos oed a sefydlaeant yn ardal French Road.

Yn 1842, priododd Margaret, merch Richard D. James, Trenton, a thua 45 mlynedd yn ol prynasant fferm yn ardal Enlli, ar yr hon y buont fyw hyd eu marwolaeth.

Yr oedd Mr. Thomas yn nesaf i'r hynaf o wyth o blant, ac y mae tri eto yn fyw — John, Jersey City; Mrs. Dorothy Williams, Floyd; a Mrs. John James, Remsen.

Ganwyd iddynt bump o blant, ond nid oes ond Sarah, gwraig Owen Thomas yn fyw. Bu hi a'i phriod, y rhai a gartrefent gyda Mr. Thomas, yn hynod o dyner wrtho a gofalus am dano, yn ei ddiogelu rhag niweidiau yn ei symudiadau yn nghanol peryglon yn codi oddiar ei ddallineb.

Yn niwygiad y Parch. Humphrey Jones, fel ei gelwid y ffordd yma, y cafodd ei ddwyn o dan argyhoeddiad; ac er fod ei briod yn aelod gyda'r Bedyddwyr, dewisodd ef ymuno gyda'r Methodistiaid yn Enlli. Cytunasant i anghytuno yn hyn, ac ni fu y naill yn unrhyw rwystr na phrofedigaeth i'r llall.

Yr oedd Mr. Thomas yn frawd a berchid yn gyffredinol. Yr oedd yn meddu ar synwyr cyffredin cryf, ac yn onest a geirwir i fanyldra. Yr oedd ffyddlondeb yn nodweddu ei fywyd crefyddol. Hoffai yr ysgol Sabbothol, a gwnai ymdrech mawr i fod yn bresenol ynddi.

Ni bu ei gystudd yn hir. Bu farw gan bwyso ar ei Arglwydd. Y 9fed, daeth tyrfa fawr iawn i'r gwasanaeth crefyddol, yr hwn a gynalid yn y ty, Miss Rayner, efengyles, y Parch. R C. Evans a'r ysgrifenydd yn gwasanaethu. Claddwyd yn mynwent Fairchild.
E. G. Williams.

Y Drych Chwefror 22ain 1900.