MR. ROBERT R. THOMAS. GRANVILLE, NEW YORK.
Mehefin 23ain. Ar ol cystudd maith a chaled, hunodd y brawd Robert R. Thomas yn yr angeu bore dydd Llun, pan eto ond yn ei 56 mlwydd o'i oedran.Ymfudodd i'r wlad hon o Gymru oddeutu 30 mlynedd yn ol, a threuliodd yr oll o'r amser yna yn y dyffryn hwn, lle yr oedd yn adnabyddus iawn, ac yn gymeriad a hoffid gan bawb yn gyffredinol.
Gadawa i alaru ei golli weddw a deg o blant, pa rai oeddynt yn bresenol wrth erchwyn ei wely dydd y ymddatodiad. Cydymdeimlir a hwy yn fawr yn eu trallod dwys ar ol priod tyner a thad gofalus.
Yr oedd yn aelod crefyddol o eglwys Jerusalem (A.), o'r hwn le y gweinyddwyd y gwasanaeth angladdol prydnawn dydd Iau gan y gweinidog, Parch. W. R. Edwards, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. John Williams, John W. Morris a William Nathaniel. Yr oedd tyrfa luosog wedi ymgasglu yn nghyd o wahanol bentrefi cyfagos i dalu y gymwynas olaf i weddillion un ag oedd yn gymeradwy iawn yn eu golwg bob amser, pa rai a ddodwyd i orphwys yn Mettowee Valley Cemetery.
Trwy farwolheth y brawd uchod y mae eglwys yr Annibynwyr eisoes wedi colli pump o'i haelodau oddiar Mawrth 24ain, a llais yr efengyl at y rhai sydd yn aros ydyw: "Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn."