THOMAS E. THOMAS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Bore Sul, Gorphenaf 22, 1900, bu farw Thomas E. Thomas, 160 Kossuth Avenue, am 11:20 o'r gloch, ar ol salwch hir. Cafodd ergyd o'r parlys tua blwyddyn yn ol, ac un arall yn Chwefror diweddaf.

Ganwyd ef yn Bangor, Gogledd Cymru, Gorphenaf 21ain, 1825.

Dysgodd yr alwedigaeth o deiliwr yn Caergybi, a gweithiodd am rai blynyddau yn Manchester a Lerpwl. Yn 1853 ymfudodd i America, gan aros am 11 o flynyddau yn New York. Tachwedd 1864, symudodd i'r ddinas hon, lle y treuliodd y gweddill o'i oes.

Yr oedd yn grefftwr medrus, a bu yn gwasanaethu gyda Lyon and Williams, T. Solomon Griffiths a Davies and Williams. Trigodd ar y cyntaf yn y Second ward, wedi hyny yn y Third ward, ac yn Blandina Place, o'r hwn le y symudodd i'w gartref ar Kossuth Avenue.

Gwerinwr oedd mewn gwleidyddiaeth. Cadwodd le ei hun ar lofft y Lux Building am flynyddau.

Yr oedd yn wneuthurwr cotiau celfydd ac ystyrid ef yn weithiwr rhagorol gan holl ddilladwyr y ddinas.

Gedy weddw (gynt Jane Roberts, Caergybi), a'r plant canlynol: Ellen, priod John T. Williams; Catherine, priod W. H. Wratten; William H. ac Elizabeth, yr oll o'r ddinas. Gedy hefyd frawd, Owen Thomas, a chwaer, Mrs. Ellen Williams, Bangor.

Y Drych ~ Gorffennaf 26ain 1900.