MRS. CATHARINE WILLIAMS. CHICAGO.

Yr enw mwyaf adnabyddus ar y chwaer hon ydoedd "Annie bach," enw desgrifiadol, am ei bod yn fechan o gorffolaeth, ac enw o anwyldeb, am ei bod yn gymeriad hoffus.

Yr oedd ei rhienì, John a Mary Williams, yn byw ar dyddyn o'r enw Coedty Mawr, ger Conwy, Gogledd Cymru, pan y ganwyd hi, Mehefin 19eg, 1841. Bu ei thad farw yn 1847, gan adael priod a thri o blant, sef Catherine, David ac Annie, yr olaf yn chwe' mlwydd oed; ac yn 1850, trwy farwolaeth y fam, gadawyd y tri phlentyn yn hollol amddifaid, a chwalwyd eu cartref.

Agorwyd drws diangfa yn nyffryn cyfyngder trwy iddynt gael derbyniad i gartref clyd eu hewythr, Mr. William J. Roberts, Pwlldy, lle y taenodd Duw ei aden gysgodol drostynt.

Yn Hydref, 1854, daeth Annie i'r America gyda'i hewythr W. J. Roberts, gan aros am ddwy neu dair blynedd yn Utica gyda'i chwaer, yr hon oedd wedi ymfudo chwe' mis o'i blaen. Oddiyno symudodd i Cambria, Wisconsin, lle yr arosodd am flwyddyn, ac yna symudodd o fan i fan hyd nes y daeth i Chicago tua'r flwyddyn 1870, ac yn y ddinas hon y cartrefodd hyd Mehefin 9fed, 1900, pryd y gorfodwyd hi gan ei gwaeledd i fyned i Randolph, Wisconsin.

Bu farw Awst 9fed, 1900. Yn y blynyddoedd diweddaf gwnai ei chartref gyda'i pherthynasau, Mr. a Mrs. John E. Pugh, Chicago.

Enillai ei bywoliaeth trwy wniadwaith, a thrwy ddarbodaeth ac ymroddiad enillodd gynysgaeth dda. Mynychai foddion gras yn addoldy Hebron, a bu yn aelod ffyddlawn iawn o'r cor canu am dros chwarter canrif. Daeth i gyflawn aelodaeth o'r eglwys yn ystod gweinidogaeth y diweddar Barch. D. Harries, D. D. Da genym ddwyn tystiolaeth i'w bywyd cyson, ei chymeriad gloew, ei hymddygiadau caredig at gleifion a thlodion, a phrofedigaethus, ei sirioldeb digwmwl, ei hymddyddanion diabsen, a'i theyrngarwch i'r efengyl a'i hordinhadau.

Cynaliwyd cyfarfod coffadwriaethol iddi yn Hebron ar nos Sabboth yn Medi, 1900, pryd y cymerwyd rhan gan y cantorion, a Mrs. D. R. Jones a'r ysgrifenydd.
John C. Jones.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1901.