MR. EDWARD LLOYD WILLIAMS. CAMBRIA, WISCONSIN.

Yn dra sydyn foreu dydd Iau, Awst 23, 1900, bu farw Edward L. Williams, Cambria, Wisconsin.

Genedigol ydoedd o ardal enwog Dolyddelen, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1846, ac ymsefydlodd yn Cambria, Wisconsin.

Dewiswyd ef yn flaenor ar eglwys y M. C. yn Cambria yn y flwyddyn 1866, a bu yn ffyddlon fel swyddog hyd y diwedd. Yr oedd yn ddyn rhagorol, ac yn Gristion da. Fel dyn a chyfaill yr oedd yn gyfryw ag oedd yn hawlio serch a pharch oddiwrth bawb o'i gydnabod a'i gyfeillion. Yr oedd yn ddifrifol ac eto yn serchus; yn llawen heb fod yn gellweirus. Yr oedd yn gywir a didwyll. Yr oedd yn ffyddlawn a sefydlog; nid oedd dim yn blentynaidd, cyfnewidiol, nac anwadal yn perthyn iddo. Nid oedd neb yn cael ei siomi ynddo. Nid dyn yr amgylchîadau ydoedd. Yr oedd yn sefydlog heb fod yn ystyfnig.

Cymerai bwyll i edrych i fewn i faterion, ac ar ol eu hiawn ddeall, ffurflai ei farn o barthed iddynt. Fel Cristion yr oedd yn "Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd twyll." Ni fu erioed yn astudio pa fodd i ymddangos yn dduwiol, mwy nag y bu y dwfr yn astudio pa fodd i redeg a'r gwynt yn myfyrio pa fodd i chwythu. Yr oedd yn amlwg ei fod yn rhodio yn llewyrch wyneb Duw, yn ymdrwsio mewn gostyngeiddrwydd, ac yn hiraethu am gyflawn sancteiddrwydd oddiar yr olwg ar ei brydferthwch.

Yr oedd yn Gristion yn ei le, yn Gristion yn adna- bod ei le, ac yn Gristion yn cadw ei le. Hir gofir ei weddi wrth derfynu y seiat y nos Fawrth olaf iddo ar y ddaear.

Diolchai am y cysur oedd wedi ei gael yn ngwasanaeth yr Iesu, a dymunai am i'r Arglwydd beri i'r bobl ieuainc gael profl a theimlo nad oes cysur na phleser cyffelyb i'r hyn a geir yn mhethau crefydd.

Cafodd angladd lluosog iawn. Cynaliwyd y gwasanaeth yn addoldy y M. C. am ddau o'r gloch y dydd Sadwrn dylynol i'w farwolaeth, pryd y gwasanaethwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parchn. J. R. Johns, Randolph, J. R. Jones, Columbus, a D. R. Jones, Lake Emily. Y nos Sabboth dylynol traddodwyd pregeth angladdol iddo gan yr ysgrifenydd oddiar Actau xi. 24 (rhan flaenaf).
Gan y Parch. J. O. Parry.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1901.


MR. EDWARD LLOYD WILLIAMS. CAMBRIA, WISCONSIN.

Marwolaeth Sydyn Brodor o Dolyddelan- Llenor, Bardd a Rhifyddwr Gwych.

Cambria, Wisconsin, Medi 21ain, 1900.
Dydd Ian, Awst 23ain, bu farw y brawd talentog, Edward L. Williams o'r lle hwn, yn sydyn iawn o ddiffyg y galon, pan yn 73 mlwydd oed. Cwynai nad oedd yn teimlo yn dda y noswaith flaenorol, a galwyd meddyg ato, a bu ei briod yn rhoddi cyffeiriau iddo nes oedd yn hwyr yna aeth hi i orphwys i ystafell gerllaw, ond erbyn y bore yr oedd ein cyfaill wedi huno yn yr angeu.

Yn yr amgylchiad hwn, gellir cymwyso ato ef yn anad neb, yr hen air ystrydebawl hwnw, "Bu farw fel y bu fyw;" do. yn ddystaw a didrwst, yn union fel y byddai yn arfer gwneyd pob peth yn ei fywyd.

Genedigol ydoedd o Dolyddelen, Gogled Cymru. Yr oedd ei fam yn chwaer i enwogion "TanycasteII," ac yr oedd yntau wedi cyfranogi yn helaeth o dalentau y teulu urddasol. Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni a pherthynasau eraill yn 1846, ac ymsefydlodd ger Cambria, Wisconsin.

Yr oedd yn un o'r blaenoriaid cyntaf a ddewiswyd ar eglwys y M. C., a gwasanaethodd yn ffyddlon yn y swydd i'r diwedd, nid yn rhyw siaradwr mawr a hyawdl, ond gwyddai yn dda pa beth a pha bryd i siarad, er hyny. Yr oedd cylch ei wybodaeth a'i alluoedd yn eang iawn. Yr oedd yn llenor gwych, yn fardd rhagorol, a'r rhifyddwr goreu yn mysg ein cenedl yn y wlad hon yn ddi-ameu.

Mewn gair, yr oedd ynddo y fath allu mewn gwahanol gyfeiriadau, fuasai yn ei wneyd yn enwog iawn pe buasai yn ei roi ar y farchnad; ond, fel y dywedodd un o'r brodyr ddydd ei angladd, ni chredodd ef ei hun erioed hyny, ac am hyny yr oedd yn anhawdd iawn ei gael i'r ffrynt gyda dim.

Yr oedd wedi ymadael oddiar y ffarm er's tro, ac wedi adeiladu ty hardd yn y pentref; ond cyn cael aros fawr ynddo, symudwyd ef i'r "ty nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd."

Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn addoldy y M. C. am ddau o'r gloch y Sadwrn dylynol i'w farwolaeth, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. J. O. Parry, J. R. Jones, a J. R. Johns.

Gadawodd i alaru ar ei ol briod a saith o blant, yn nghyd ag amryw wyrion a pherthynasau eraill. Er fod amryw o'r plant ar wasgar yn Minnesota a Dakota, cawsant oll y fraint o ddyfod yn nghyd i dalu y gymwynas olaf am byth i'w hanwyl dad, a gollwng deigryn ar ei fedd. Duw eu tad fyddo yn Dduw ac yn amddiffynydd iddynt hwythau oll.

Gan fod yn debyg y bydd rhywun cymwys yn gwneyd cofiant i'r brawd, ni bydd i ni chwanegu.

I'r hoff frawd rhaid rhoi ffarwel - mewn gofid
Am hen gyfaill tawel;
Mewn daeargell, man dirgel,
Y rhoed dor ar Edward L.

Ac yn frwd, cwyna y fro - dyloted
Ei lety mewn amdo;
Oer anedd ga' nawr i huno,
Daear lwyd, ar ei wely o.

Er, mewn arch, ei barch mwy bydd - a'i enw
Yn anwyl geir beunydd;
Serch i wylaw draw a dry,
Ar lan ei ddaear lonydd.

GAN W. W. ROWLANDS.

Y Drych ~ Medi 27ain 1900.