MRS. ELIZABETH WILLIAMS. UTICA, NEW YORK.

Bore dydd Gwener, y 19eg o Ionawr, yn ei chartref 18 Devereux Street, Utica, bu farw Mrs. Elizabeth Williams, priod Robert Williams, gynt o ardal Llanllyfni, yn 41 mlwydd oed, ar ol cystudd lled faith dan y Bright's disease.

Y gwanwyn diweddaf aeth ar ymweliad a Chymru, ond ychydig o les a brofodd y daith iddi. Heblaw Mr. Williams, gyda'r hwn y bu yn briod am agos ugain mlynedd. gadawodd ferch fabwysiedig, Winnie Williams.

Claddwyd hi ddydd Llun o gapel Moriah, y Parch. H. F. Williams yn gweinyddu.

Y Drych Ionawr 25ain 1900.