MR. EVAN WILLIAMS. SOUTH CHICAGO, ILLINOIS.
Mehefin 18fed, 1900, ar ol byr ond poenus gystudd o'r inflamatory rheumatism, yr hyn a drodd yn ddwfr ar yr ymenydd, bu farw Evan Williams, 77-90th Street, South Chicago, Illinois, ychydig dros 50 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Llyn Penman, ger Dolgellau, Gogledd Cymru.
Bu yn beirianydd ar y Cambrian Railway am flynyddau.
Daeth ef a'i briod i'r wlad hon oddeutu 20 mlynedd yn ol, gan sefydlu yn South Chicago. Cafodd waith fel peirianydd ar y Blue Island R. R., a dringodd i fyny yn brif beirianydd y ffordd mewn yehydig amser, a pharhaodd yn, y swydd hyd streic fawr y railroads ychydig flynyddau yn ol.
Yr oedd yn ddyn hynaws, caredig, a phawb a gair da iddo, fel y profai y blodau a orchuddiai ei arch, a'r dyrfa fawr ddaeth yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo ar y 1af o Gorphenaf.
Gadawodd i alaru ar ei briod a thri o blant, Jennie a Mamie, y ddwy yn briod, a Tomie, yr hwn sydd adref gyda'i fam, a thad a mam yn Dolgellau, Gogledd Cymru.
Claddwyd ef yn Oakwood's Cemetery. Gweinyddwyd gan y seiri Rhyddion yn y ty ac ar lan y bedd.
Deudraeth.