MRS. JANE WILLIAMS. LONG CREEK, IOWA.

Ar nos Sabboth, Rhagfyr 2ail, 1900, bu farw y chwaer anwyl uchod o'r pneumonia, yn 56 mlwydd oed.

Dechreuodd ei gyrfa mewn lle o'r enw Brynllwyd, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni oeddynt William a Catherine Arthur. Ymfudodd ei rhieni i'r wlad hon yn 1844, a daethant i Long Creek, ac yma y treuliodd Mrs. Williams bellach ei holl oes. Mehefin 27ain, 1867, ymbriododd a Mr. Evan Davies o gymydogaeth Corris. Ni pharhaodd yr undeb hwn lawn bedair blynedd. Bu farw ei phriod o'r cancer Ionawr 9fed, 1871. Ganwyd iddynt ddau o blant, y rhai a fuont feirw yn eu babandod.

Ionawr 3ydd, 1877, ymbriododd eilwaith a Mr. W. W. Williams, brodor o Penbryn, gerllaw Pwllheli, Gogledd Cymru. Ganwyd iddynt bedwar o blant, Margaret, Arthur, Ebenezer a Ruth, y rhai gyda eu tad sydd wedi eu gadael i alaru ar ol mam dyner a phriod ffyddlawn a gofalus. Yr oedd Mrs. Williams o'i mebyd yn wir grefyddol. Ymdrechodd yn nghanol trafferthion y ffarm i addysgu ei phlant pan yn fychain yn y Rhodd Mam a'r Rhodd Tad. Cymerai ei rhan yn gyson yn yr addoliad teuluaidd.

Hyderwn y bydd i'r oll o'r plant lynu wrth yr egwyddorion a ddysgwyd iddynt gan eu mam. Derbyniwyd hi yn aelod eglwysig pan yn ieuanc yn y Capel Bach (fel ei gelwid), capel cyntaf y T. C. yn yr ardal, a phan sefydlwyd eglwys Bethel yr oedd hi yn un o'r charter members, a bu yn wir ffyddlon ac ymdrechgar gyda'r achos hyd ei ymadawiad i'r wlad well. Yr oedd yn orofalus am gadw addoldy Bethel yn lan. Hi oedd ar y blaen gyda hyn. Hi fyddai yn anog at y gwaìth, a gwnai ei rhan yn ewyllysgar o gariad at yr achos.

Credai hi na ddeuai yr Ysbryd Glan ond i le glan. Prif nodweddion ei chymeriad ydoedd ffyddlondeb a gweithgarwch. Ychydig o gyfarfodydd Sabbothol nac wythnosol a fu yn Bethel heb ei bod hi yno. Nid crefydd tywydd teg oedd ganddi. Cerddai yn aml trwy y gwlaw a'r llaid i'r cyfarfodydd, ac er nad oedd o dalentau dysglaer, byddai yn cymeryd rhan gyhoeddus pan fyddai angen am hyny. Diweddodd un o'r cyfarfodydd eglwysig olaf y bu ynddo trwy weddi afaelgar a gwresog, a hyny ychydig amser cyn eì chymeryd yn glaf. Byr fu ei chystudd, ond caled.

Cafodd bob cymorth allai plant a phriod, chwiorydd a chymydogion ei weini iddi. Dyoddefodd y cyfan yn dawel a dyoddefgar. Bu farw yn fuddugoliaethus. Tystiai ei bod wedi rhoddi ei hun i Iesu Grist pan yn eneth ieuanc, a'i fod ef wedi profi drwy ei hoes yn ffyddlon iddi; ei fod ef yn ffyddlon iddi yn awr yn nglyn cysgod angeu. Tua'r diwedd adroddai ei hoff benill gyda theimladau dwys:

"O Dduw! rho im, dy hedd,
A golwg ar dy wedd,
A maddeu'n awr fy meiau mawr
Cyn yr elwy'i lawr i'r bedd;
Ond im' gael hyn nid ofnai'r glyn
Na cholyn angeu'n hwy,
Dof yn dy law i'r ochr draw,
Heb fríw na braw, ryw ddydd a ddaw,
Uwch law pob loes a chlwy'."

A phan yn y glyn clywid hi yn gweddio dros ei phlant a'i phriod, a thros eglwys Bethel, yr hon a gerid yn amlwg ganddi mor fawr.

Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus. Cymerwyd arweiniad y gwasanaeth, yn ol ei dymuniad hi ei hun cyn marw, gan y Parch. W. Roland Williams, M. A. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. H. P. Roberts (A.), Old Man s Creek; Lloyd Williams (A.), Oskaloosa; Richard Pugh (P.), Maquoketa; a Monroe Drew (P), Columbus Junction.

Teimlid rhyw ddwysedd crefyddol anghyffredin yn y gwasanaeth. 'Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef." Yr oedd arwyddion amlwg o bresenoldeb Ysbryd Duw yn yr addoliad.

Rhoddwyd y gweddillion i orphwys hyd foreu yr adgyfodiad yn y Cambrian Cemetery. Heblaw ei phlant a'i phriod, gadawodd i alaru ar ei hol chwiorydd anwyl, Mrs. Ann Richards, Cotter, Iowa; Mrs. Catherine Jones, priod y Parch. Samuel Jones, Carroll, Nebraska; a Mrs. Lizzìe Thomas, Red Oak, Iowa. Caffed yr oll nerth i ymdawelu, ac i ymgysuro yn nghras Duw. Duw yw noddfa a nerth plant trallod.

"A nesaf yw efe
O bawb at enaid gwan."
D. R. Hughes.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1901.