MRS. JANE WILLIAMS. WINFRED, SOUTH DAKOTA.

Ganwyd Mrs. Williams ger y Bala, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1839. Pan oedd yn ddwy flwydd, oed ymfudodd i'r wlad hon gyda'i rhieni, y diweddar John Lloyd, Randolph, Wisconsin, a'i briod, gan ymsefydlu yn Collinsville, New York.

Pan yn 23 mlwydd oed priododd gyda Wm. H. Williams, Penygraig, New York. Yn mhen ychydig flynyddau symudodd y teulu i Wisconsin, a buont yn ffarmio yn agos i Randolph, yna symudasant i ardal Foreston, Iowa, a thuag ugain mlynedd yn ol symudasant i South Dakota, ac ar ddydd Iau, y cyntaf o Chwefror, 1900, daeth y symudiad olaf. Ehedodd ei hysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes, ac ar y 3ydd o'r un mis hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi gan ei theulu a'i chyfeillion i fynwent Winfred, lle y cafodd gladdedigaeth barchus.

Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth angladdol gan y Parchn. J. Alderson a Lepletak, a D. T. Davies, gweinidog y T. C. yn Winfred.

Bu yn fam i ddeg o blant, o ba rai y mae saith yn fyw, y rhai yn nghyd a'i phriod oeddynt gyda hi hyd y fynyd olaf. Yr oedd ein chwaer yn wraig ddarbodus, yn fam dyner a gofalus, yn ddichlynaidd, tawel a diymhongar yn yr eglwys, a gair da iddi gan ei chymydogion. Yr oedd yn amlwg ei bod yn pwyso yn ddiysgog ar y Gwaredwr. Y Sabboth diweddaf y bu byw dymunai ar ei phriod ganu iddi yr hen benill hwnw "O fryniau Caersalem ceir gweled." Credwn y gellid dweyd, am Mrs. Williams, "Gwyn fyd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd." Yr Arglwydd fyddo yn nodded, ac yn gysur i'w hanwyl briod a'i phlant, ac a baro i'r amgylchiad chwerw hwn weithio er daioni iddynt hwy a'i holl berthynasau.
William W. Davies, Racine, Wisconsin.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphennaf 1900.