MRS. JANE HOWELLS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Dydd Gwener y 14eg, yn ei chartref, 12 Spring Street, bu farw Jane Howell, gweddw Cadwaladr Williams, yn 84 mlwydd oed, ar ol wythnos o gystudd.

Ganwyd hi yn Llanuwchllyn yn 1816; ond daeth gyda'i rhieni i Sir Oneida pan yn 12 oed. Pan yn 21 oed priododd Mr. Williams, a buont yn amaethu yn Deerfield hyd ei farwolaeth ef ugain mlynedd yn ol.

Gadawodd ar ei hol y plant canlynol: David H. Williams, Newark, New Jersey; Mrs. Hugh R. Evans, Mrs. E. Bottger, Misses Elizabeth a Harriet Williams. Utica, a Margaret, priod y Parch. J. H. Griffith, Powell, South Dakota. Hefyd chwaer, Mrs. E. M. Jones, Danbury, Connecticut, a nifer o wyrion.

Yr oedd Mrs. Williams yn aelod ffyddlon yn Bethesda.

Y Drych Rhagfyr 20fed 1900.