JOHN J. W. WILLIAMS. BANGOR, PENNSYLVANIA.

GAN Y PARCH H P. MORGAN.

Wrth yr enw John Williams y Meadow yr adwaenid ein gwrthrych yn fwyaf cyffredin, ac yr oedd ei enw yn air teuluaidd yn y dref hon ac mewn amryw leoedd eraill.

Ganed ef yn Llanddeiniolen, Gogledd Cymru, yn 1827, a daeth i'r wlad hon pan yn fachgen ieuanc 24 mlwydd oed, gan ymsefydlu yn ardal iachus Slatington, lle y bu yn weithgar a dedwydd am rai blynyddoedd.

Yn mis Mawrth, 1858, ymbriododd gyda Mary Jones o Llanwnda, Cefn Mawr, Gogledd Cymru, a bu yn hynod o ddoeth a ffodus yn ei ddewisiad.

Ganwyd iddynt bump o blant. Y mae Mary yn briod gyda Hugh Price, ac yn byw yma, ac y mae Robert a William gartref gyda eu mam weddw, tra y mae Hugh yn Slatington, a John yn California.

Symudodd ein gwrthrych o Slatington i Jersey, wyth milldir oddiyma, ac ar ol treulio pedair blynedd ar ddeg yn y lle olaf daeth i'r lle hwn 26 mlynedd yn ol; felly gwelir fod deugain mlynedd olaf ei oes wedi cael eu treulio yn yr ardal Gymreigaidd hon.

Yr oedd wedi methu dylyn ei alwedigaeth er's saith mlynedd, ac ar hyd yr amser hwnw cafodd gystuddiau aml a blin. Yr oedd wedi colli ei glyw er's amser maith, a phoenai hyny ei feddwl yn fawr, ond yr oedd yn hynod o ddi-rwgnach er hyny. Bu yn bur wael trwy y gauaf diweddaf, a gafaelodd ei afiechyd ynddo mor ddwfn fel na ollyngodd ei afael ynddo hyd y diwedd. Caethiwyd ef i'w wely yn ystod chwech wythnos olaf ei fywyd, a chymaint ydoedd ei ddyoddefiadjau corfforol fel y dymunodd yn daer lawer gwaith am gael ymadael a'r byd hwn.

O'r diwedd cyflawnodd yr Arglwydd ei holl ddymuniadau, a bu farw mewn gorfoledd prydnawn dydd Gwener, Mehefin 8fed, 1900. Y dydd Llun dylynol daeth torf luosog iawn yn nghyd o wahanol gyfeiriadau i hebrwng yr hyn oedd farwol o hono i dy ei hir gartref yn mynwent gyhoeddus y dref hon. Wedi canu emyn wrth y ty gorymdeithlwyd yn araf i'r capel M. C. Cymreig lle yr oedd wedi bod yn aelod ac yn swyddog selog a defnyddiol er cychwyniad yr achos. Llanwyd y capel a'r ystafell perthynol iddo i'w hymylon. Canwyd yn effeithiol rai o'i hoff emynau, ac yr oedd ar- wyddion galar ar bob wyneb.

Gwasanaethwyd yn y capel gan y Parchn. H. P. Morgan, Hugh Hughes (M. C.), ac Ifor Thomas (A.), ac wrth y bedd gan y tri uchod, a chan swyddogion yr Urdd Iforaidd.

Nos Sul, Mehefin 24ain, ymgynullodd torf luosog o edmygwyr yr ymadawedig i'r capel uchod i wrandaw ar ysgrifenydd hyn o linellau yn ceisio traddodi ei bregeth goffadwriaethol oddiar Hebreaid xiii: 7. Y dystiolaeth gyffredinol ydyw fod y diweddar John Williams yn un o'r cymeriadau goreu fu yn yr ardal hon erioed, ac y mae hyny yn llefaru yn uchel yn ei ffafr.

Dyddaned yr Arglwydd y weddw oedranus, yr hon fo iddo yn ymgeledd gymwys, ac yn gysur mawr iddo am dros ddeugain mlynedd; a bydded iddi hi a'r plant gael golwg glir ac aml ar yr Hwn a gymerodd oddiarnynt briod a thad tyner, gofalus a gweddigar. Boed eu diwedd hwy fel yr eiddo yntau.

Y Drych ~ Gorffennaf 12fed 1900.