MR. CATHARINE WILLIAMS. RANDOLPH, WISCONSIN.

Tachwedd 11eg, 1900, wedi hir gystudd, yn 74 oed, bu farw Mrs. Williams, gweddw y diweddar Robert D. Williams, Randolph, Wisconsin.

Yr oedd y chwaer yn enedigol o Ffestiniog, Gogledd Cymru.

O Maentwrog, Gogledd Cymru, yr ymfudodd hi a'i phriod yn 1850 i'r wlad hon. Yr oeddent yn mhlith teithwyr y llong "Higginson," hwyliodd o borthladd Caernarfon, Ebrill 8fed, y flwyddyn hono. 38 o ddyddiau y parhaodd y fordaith, meddai Mr. T. Lloyd Williams, Racine.

I Holland Patent yr aethant ar eu dyfodiad i'r wlad hon, at frawd i Mr. Williams oedd yn weinidog y T. C. yno. Buont byw yn Trenton am rai blynyddau; yna yn ardal Oshkosh am ychydig fisoedd; wedi hyny yn Columbus ac yn Cambria, ond am y 32 mlynedd diweddaf yn Randolph.

Yr oedd y chwaer felly yn un o'r rhai cyntaf o aelodau yr eglwys yma. Dau sydd yn aros eto o'r rhai sydd yn cofio y dechreuad, ac oeddent yno yn nechreuad yr eglwys yn Randolph, sef Mri. T. W. Davies a W. J. Lloyd.

Bu farw ei phriod yn 1882, ac wrth edrych dros sylwadau y Parch. Thomas Foulkes yn y "Drych" am ei phriod, gwelwn fod cryn debygrwydd rhwng y gŵr a'r wraig mewn llawer o bethau. Mae eglwys Randolph yn teimlo colled ar ei hol hithau, am ei bod yn un o'r rhai mwyaf ymdrechgar i roddi ei phresenoldeb yn y moddion; ac os byddai ychydig o wlybaniaeth yn y moddion, ceid ei bod hi, fel rheol, wedi sugno ei chyfran o hono.

Gofaladd yr Arglwydd yn dyner am dani. Cafodd weled aml a blin gystuddiau, ond "Yr Arglwydd a'i gwaredodd" erbyn hyn o'i holl gyfyngderau.

Effeithiodd colli ei merch ddall, Laura, yn fawr arni. Rhwng pob peth, addfedwyd hi i fod yn "foddlawn iawn i 'mado," a thystiai pan ddaeth "at y fan," fod yno ryw Un "yn ymchwydd yr Iorddonen yn dal ei hysbryd llesg i'r lan."

Claddwyd hi Tachwedd 14eg, yn mynwent Randolph. Yr oedd y plant sydd yn fyw i gyd adref adeg ei marwolaeth, sef Mrs. Hugh Williams, Randolph; Mrs. Thomas Rees, Oshkosh; Mrs. McHugh, Milwaukee, a Mr. David Williams, Minneapolis.

Aden Duw eu rhieni a fyddo i'w cysgodi hwythau.
J. R. Johns.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1901.