MR. ROBERT R. WILLIAMS (FALLS.) SOUTH BEND, MINNESOTA.
Yn ei gartref yn South Bend, Minnesota, Medi 3ydd, 1900, bu farw yn hollol ddisymwth yr henafgwr a'r brawd Mr. Williams, yn 80 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Clenau, Penmorfa, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Mab ydoedd i Griffith ac Ellen Williams. Melinydd oedd ei dad.
Dysgodd ei gelfyddyd gyda thaid y Parchn. Evan, Dafydd a Richard F. Jones. Daeth y teulu i'r wlad hon yn 1842.
Wedi treulio rhai blynyddau ar y mor daeth gwrthrych y cofiant hwn i'r wlad hon yn 1841, gan sefydlu yn Marcy, New York, lle yr ymbriododd gyda Gwen Roberts, merch i Griffith a Margaret Roberts, Dyffryn Ardudwy, Gogledd Cymru. Yna bu yn y lleoedd canlynol: Cleveland, Ohio, Gulf a Frankfort Hill, New York, a Watertown, Wisconsin. Daethant i Minnesota yn 1855, gan sefydlu yn y Falls, lle y treuliodd weddill ei oes.
Ganwyd iddynt chwech o blant, sef Ellen, William, Margaret, Jennie, Mary a John. Yr oedd Margaret a Mary wedi rhagflaenu eu tad i'r byd tragwyddol, ond mae pedwar yn fyw i gydalaru a'u mam ar ôl tad tyner a phriod caredig a gofalus, William yn yr hen gartref, Ellen yn briod a'r Anrh. Thomas Pugh, Duluth; Jennie (Mrs. Lake) yn y dref hon; a John yn Janesville, Minnesota. Hefyd un chwaer iddo yn Cleveland, Ohio, sef Mrs. Ellen Morgan. Bu chwaer arall iddo, Mrs. Sarah Glass, farw yno ryw 7 mlynedd yn ôl.
Yr oedd Mr. Williams yn gymeriad naturiol - true to nature, yn hollol amddifad o bob rhodres mursenaidd. Yr oedd ganddo galon fawr agored, llawn o garedigrwydd, a chan ei fod yma yn lled foreu cafodd lawer cyfle, yn y cyfnod hwnw, i'w arddangos. Yr oedd ysgydwad ei law yn amlygu cynesrwydd ei galon, ac nid anghofia y rhai gafodd y cyfle hwn yr ysgydwad byth. Ymunodd â chrefydd rai blynyddau yn ôl, a bu yn ffyddlon hyd y diwedd. "Aeth o nerth i nerth" - "o fintai i fintai." Yr oedd y fintai wedi newid bron yn llwyr er pan ddaeth ef i Minnesota, ac wedi newid llawer er pan ymunodd ef yn ffurfiol a hi, ac eto cadwodd yn mlaen, ac yr ydym yn bendithio Duw am y gobaith cryf sydd genym fod yr hen gyfaill wedi cyraedd Seion yn ddiogef.
Yr oedd un peth yn ei nodweddu yn yr addoliad y byddai yn dda i lawer o honom ei efelychu, sef ei astudrwydd yn gwranda yr efengyl. Yr oedd yn wrandawr rhagorol, ac os na phregethwn i neu arall gydag yni, nid ar wrandawiad Robert Williams yr oedd y bai.
Cafodd angladd parchus dydd Mercher, Medi 5ed. Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd yn Minneopa gerllaw, gan yr ysgrifenydd a'r Parch. R. D. Price. Bu ef ei hunan yn cymeryd rhan flaenllaw mewn llawer angladd yma (gan ei fod yn gofalu am y fynwent), ond dyma yntau erbyn hyn wedi ei osod i orphwys.
Dymunwn gwsg esmwyth iddo, ac i amddiffyn Duw fod dros ei briod oedranus yn ei hiraeth ar ei ôl, ac arweiniad y nefoedd i dywys y plant yn llwybrau rhinwedd. Traddodwyd pregeth angladdol iddo yn Seion, lle yr oedd yn aelod, Medi 16eg, seiliedig ar Salm 84: 7.
Wm. E. Evans.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1901.
MR. ROBERT R. WILLIAMS (FALLS.) SOUTH BEND, MINNESOTA.
Marwolaeth Sydyn Hen Sefydlydd Parchus yn Sir Blue Earth, Minnesota.
Am 8 o'r gloch bore Llun, Medi 3ydd, bu farw yr hen gymeriad tawel a charedig Robert R. Williams, a adnabyddid wrth yr enw Robert Williams y Falls, yn 79 mlwydd oed.Ymddengys fod y peiriant dyrnu ar ei fferm ar y pryd, ac iddo yntau fyned i lanhau a threfnu yr ysgubor er derbyn yr yd i mewn, a thra wrth y gorchwyl hwn cwympodd i'r llawr; cludwyd ef i'r ty, a gweinyddwyd arno yn y modd mwyaf doeth a medrus; ond ni adfeddianodd ei ymwybyddiaeth - hunodd yn dawel. Achos uniongyrchol ei farwolaeth ydoedd y parlys. Cafodd ddau ymosodiad oddiwrtho yn flaenorol.
Yr oedd Mr. Williams yn fab i Griffith ac Ellen Williams, Felin y Clena, plwyf Penmorfa, Arfon. Ymfudodd i'r wlad hon pan yn 21 oed.
Yn 1846 ymunodd mewn priodas a Gwen, merch i Griffith a Margaret Roberts, Dyffryn Ardudwy, Sir Feirionydd. Buont yn byw yn Cleveland, Ohio, am dair blynedd; yna symudasant i Marcy, New York; ac oddiyno drachern i Frankfort Hill. Yn 1854 symudasant fel teulu i'r gorllewin, gan aros am ychydig yn Elmmet, Wisconsin. Yna daethant yn mlaen gan ymsefydlu ar fferm yn South Bend, Minnesota.
Ganwyd iddynt bedair o ferched a dau fab. Bu farw dau, a'r pedwar sydd yn fyw ydynt - Mrs. J. M. Pugh, Duluth; Mrs. Jennie Lake, Mankato; John R. Williams, Janesville; a Wm. R. Williams.
Dydd Mercher rhoddwyd ei gorff i orwedd yn mynwent Minneopa yn ngwydd tyrfa fawr o'i gyfeillion. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parchedigion R. W. Price (W.), a W. E. Evans. Gan y credwn yr ymddengys cofiant iddo yn y "Cyfaill," ymataliwn rhag nodi yr un o linellau cymeriad ein hen frawd a chyfaill ymadawedig.
Ein gweddi yw ar fod yr Arglwydd yn amddiffynydd i'n hen chwaer yn ei hunigedd.
GAN GWYNGYLL.