MRS. SARAH WILLIAMS. PORT LEYDEN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Rhagfyr 3ydd, 1900.Nos Sul, yn ei chartref gerllaw Port Leyden, New York, o'r pneumonia, bu farw Sarah Williams, priod Henry Perry, yn 65 mlwydd oed.
Merch ydoedd i'r diweddar Robert Williams a'i briod, a daeth gyda hwy o Gymru yn 1842, gan ymsefydlu yn Lyons Falls, lle y priododd Mr. Perry. Heblaw ei phriod gadawodd ar ol ddau fab, W. R. Perry o South Dakota. a Lewis H. Perry, New York; ac un ferch. Miss Ella J. Perry, Port Leyden; hefyd, dau frawd, W. R. Williams a'r Parch. Lewis Williams. Utica.
Yr oedd yn aelod gyda'r M. E., ac yn fawr ei pharch yn yr ardal.