MR. THOMAS WILLIAMS. CAERGYBI, DODGEVILLE, WISCONSIN.
Tachwedd 4ydd, 1900, yn ei gartref yn Dodgeville, Wisconsin, bu farw y cyfaill anwyl Thomas Williams, Caergybi, fel ei gelwid, ar ôl tua blwyddyn o gystudd.Ganwyd ef Ionawr 1af, 1823, yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r America yn 1844, ac ymsefydlodd yn Dodgeville.
Difyr oedd gwrando arno yn myned dros hanes profedigaethau ei daith, heb ddigon o Saesneg i ofyn am damaid o fwyd. Bu yn gweithio yn y mines hyd 1858, pryd y prynodd ffarm i'r dwyrain o dref Dodgeville, lle bu yn byw hyd nes y symudodd i'r dref yn y flwyddyn 1893.
Priododd Ebrill 8fed, 1849, â Miss Elizabeth Grifflths, yr hon a'i rhagflaenodd i'r byd arall. Bu farw yn 1891. Bu iddynt dri ar ddeg o blant. O'r plant y mae yr oll yn fyw oddigerth Elizabeth, yr hon fu farw yn 1872. Yn fyw mae Mary, priod Mr. Lewis Oliver, Idaho Springs, Colorado; Margaret, priod Mr. A. M. Dagget, Colorado Springs; Annie, priod Mr. Thomas Edmunds, Dodgeville, a Miss Sarah Williams oedd yn cadw tŷ i'w thad; William yn New Mexico; David yn Colorado; Thomas, John a Peter yn Dodgeville; Robert yn Rockford, Illinois; Hugh yn byw ar yr hen gartref; a George yn Colorado.
Ymunodd Mr. Williams a'r Methodistiaid, a bu yn aelod ffyddlawn a defnyddiol hyd y diwedd. Bu yn aelod am flynyddau yn Caergybi, wedi hyny yn Dodgeville.
Claddwyd ef dydd Mercher, Tachwedd 7fed, yn mynwent Dodgeville, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Griffith Jones, Hugh Owens, Barneveld, D. Dyfri Davies a'r ysgrifenydd. Yr oedd Thomas Williams yn gydymaith dyddan, yn gymydog tawel, yn dad caredig, yn Gristion gloew, yn weddiwr gafaelgar, yn hoffi canu, ac nid oes ameuaeth nad ydyw wedi ymuno â'r cor mawr i foli yr Oen am dragwyddoldeb.
Fel hyn yr ysgrifena y Parch. J. O. Parry, Cambria, am dano: "Yr oedd yn Gristion cywir. Byddai wrth ei fodd yn son am bethau crefydd. Yr oedd ganddo barch calon i bawb fyddai yn egwyddorol gyda chrefydd, ond ffieiddiai yr hunanol, y Pharisead, â chas cyfiawn. Yr oedd Thomas Williams yn weddiwr mawr. Nid gweddiwr hir, na thalentog, os priodol arfer geiriau fel yna mewn cysylltiad a gweddio, ond gweddiwr mawr. Teimlais lawer pryd ei fod yn tynu y nefoedd i lawr i'n cyfarfodydd gweddio. Gweddiai bob amser yn naturiol, o ran hyny pa ffordd arall sydd i weddio? Y mae adsain ei weddi un tro, yn awr yn swnio yn fy nghlust. Nis gallaf ei hanghofio, ac ni ddymunaf byth iddi gael ei dileu oddiar fy nghof. Carwn iddi lechu ynddo drwy fy oes, a thrwy y glyn, ac yn awyrgylch y byd a ddaw, ie, carwn iddi aros yno cyhyd ag y bydd coflo a chanu am angeu y groes. Yr ydym mewn gobaith o gael cymdeithasu eto o dan amgylchiadau mwy ffafriol ar fryniau y Ganaan wlad, wedi cael cyrff newydd, pa rai fydd yr un ffurf a'i gorff gogoneddus ef."
Dyma fel y dywed y Parch. Grifflth Jones am dano: "Wel, mae'n syn genyf feddwl fod fy hen gyfaill Thomas Williams yn ei fedd. Yr oeddwn yn adnabyddus ag ef er's degau o flynyddau. Pan adnabyddais ef gyntaf yr oedd yn was ffyddlon i'r diafol, ac yn blentyn iddo. Yr oedd cyfarfodydd llygredig wrth ei fodd; ond un noswaith yn nghapel Caergybi daeth deddf ysbryd y bywyd yn Nghrist Iesu i'w ryddhau, a deddf ianwyl ydyw. Pentewyn oedd Thos. Williams wedi ei achub o'r tan. Yr oeddwn yn byw yn ei ymyl pan gymerodd hyn le, a byddem yn ceisio rhwbio ymaith ôl y fflamau oddiar ei natur, a buom yn llwyddianus.
Gwnaeth Thomas Williams filwr da i Iesu Grist. Do, buom gydag ef mewn ugeiniau o gyfarfodydd gweddio am ysbaid haner can' mlynedd, ac yr oedd y bendithion a dderbyniasom yn anmhrisiadwy. Nì chafodd gerydd eglwysig dros daith hir ei bererindod. Yr oedd yn ffrynd i'r holl frodyr crefyddol, ac yn wir yr oedd yn ffrynd a rhai digrefydd, a'r rhai hyny mor barchus a neb yn ein tref; a rhai o'r rheini oedd yn y tŷ ddydd yr angladd, yn glos wrth yr arch. Yr oedd yr olwg arnynt yn peri i'm hysbryd lawenhau, a hwy yn mhlith eraill a roes ei gorff i orwedd yn ei dy o bridd."
Yr oedd yn dderbyniwr ac yn ddarllenwr mawr o'r "Cyfaill," a thynai lawer o fel o hono.
Peter Gray Evans.