MRS. WILLIAM J. WILLIAMS. WILKES-BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Gorphenaf 12fed, 1900, yn Wilkes-Barre, Pennsylvania, William J. Williams, Lehigh Street, wedi nychdod o ddwy flynedd gan wendid a diffyg anadl.

Gweithiwr daear ydoedd, a wnaeth ymdrech deg at godi ei deulu yn ddinasyddion da, ac yn feddylgar am foesoldeb a chrefydd. Edrychid arno fel cymuydog da, a dichlynaidd ei rodiad.

Genedigol ydoedd o Penrhyndeudraeth, Gogledd Cymru. Ei rieni oeddent John a Jane Williams o'r Hen Shop y rhai oeddynt wir adnabyddus trwy y cylchoedd. Enwau rhieni ei briod oeddent John a Letitia Jones o Caerwen, Sir Fon.

Ymfudodd 17 mlynedd yn ol i Wilkes-Barre, a'r flwyddyn ddylynol daeth ei briod a'u plant drosodd, sef John, Richard, Letitia, a Thomas. Erbyn hyn y mae eu hunig ferch yn briod a'r gwr, ieuanc bucheddol, David C. Jones o'n dinas, ond y meibion gartref, a bellch yn gysur i'w hanwyl fam amddifad. Yr oedd yn gysur mawr i'w briod, ei anwyl blant, a'i gyfeillion oll ddeall iddo ymadael mewn heddwch a thawewch cydwybod, ac mewn gobaith am gartref dedwyddach fry.

Cafodd ei gladdu yn mynwent y ddinas, y Parch. William D. Jenkins yn gweinyddu.

Nid oedd yr ymadawedig ond 53 oed. Y mae yn fyw un chwaer, Catherine Evans, Penrhyndeudraeth, a lluaws o berthynasau yn Utica a New York Mills ac amryw leoedd trwy y Talaethau, heblaw chwaer i'r weddw, Mrs. Robert Edwards o'r ddinas hon, a'u plant, a brawd iddi, Henry Jones yn Mankato, Minnesota.
Cymydog.

Y Drych ~ Gorffennaf 26ain 1900.