MRS. ZIDNEY MARY WILLIAM. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Awst 23ain, 1900, yn ei chartref, 211 West Street, Utica, bu farw Zidney Mary, gweddw Robert R. Williams, ar ol salwch maith. Blinid hi am flynyddau gan y crydcymalau, ac er's wyth mlynedd cyfyngesid hi i'w chadair.Ganwyd hi yn Llanfrothen, Gogledd Cymru, Gorphenaf 19eg, 1837; a merch ydoedd i Richard ac Ann Jones. Pan yn wyth oed ymfudodd gyda'i mam a'i chwaer, gan ymsefydlu yn nghymydogaeth Utica, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes.
Hydref 9fed, 1861, ymbriododd a Robert R. Williams, Cassville, ac wedi byw yno am dymor, symudasant i fferm yn New Hartford, lle y trigasant am 18 mlynedd. Daethant i Utica yn 1885, lle y bu Mr. Williams farw tua deng miynedd yn ol.
Yr oedd Mrs. Williams yn feddianol ar nodweddion a'i gwnai yn anwyl gan ei hadnabyddion a'i chymydogion. Yr oedd yn aelod o eglwys Coke Memorial, a chymerai ddyddordeb mawr yn ngwaith crefydd.
Yr oedd yn chwaer, hefyd, i'r ddweddar Barch. W. R. Jones (Goleufryn), Caernarfon. Gedy bump o ferched: Mrs. Evan O. Williams o Utica; Mrs. Elisha F. Bliss o Mount Holyoke, Northampton, Massechusets; Mrs. Frederick Jones, Mrs. Orson A. Woolsey a Lillian Williams, Utica; ac un mab, Robert R. Williams, Utica, a dau lys-fab, William O. Williams, New York, a John H. Williams, Atlanta, Georgia; hefyd, un chwaer, Mrs. Katie J. Williams, Utica, a llysfrawd, Griffith Parry, Norwalk, Ohio.
Cafodd angladd parchus am 3 o'r gloch ddydd Sadwrn, y Parchn. E. J. Griffith, ei gweinidog, a J. B. Hammond yn gweinyddu. Canwyd gan y pedwarawd William, David ac Evan Lloyd o Marcy, perthynasau i'r ymadawedig, a Fred Davies o Holland Patent. Yr archgludwyr oeddynt Robert R. Williams, W. O. Williams, Evan O. Williams, Fred Jones, Orson A. Woolsey a Robert E. Jones. Addurnid yr arch a blodau hardd.
Dodwyd hi i orwedd yn Forest Hill.