HUGH BEANS. PENIEL, OSHKOSH, WISCONSIN.
Ganwyd y brawd hwn yn Ty'n-y-pant, ger Corwen, Gogledd Cymru, yn 1830; yn fab i Thomas a Jane Beans, y rhai a ddaethant o'i flaen ef yn gynarol i'r sefydliad Cymreig hwn, ac o wehelyth y rhai y mae heddyw luaws o deuluoedd. Arosodd y mab hwn, ar ei ddyfodiad i'r America, yn Utica, New York, lle hefyd y priodwyd ef yn 1857 gyda Miss Anne Jones, merch John Jones, Bryn Crug, Dolgellau, Cymru.Daeth i sefydliad Oshkosh yn 1858, gan ymsefydlu ar y fferm lle y bu farw yn Nhrefgordd, Utica.
Collodd ei briod hawddgar Medi 3ydd, 1893, a bu yntau farw Medi 26ain, 1901, gan adael pum mab ac un ferch mewn galar ar ol tad hynod o dyner. Mae yr oll ond un mab wedi priodi ac ymsefydlu yn y byd, yr hyn a barai lawer o foddhad i'w tad yn ei gystudd olaf.
Yr oedd Mr. Beans yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Peniel, a bu yn dra ffyddlawn i'w gyfamod gyda Duw a'r eglwys. Er yn ddyn deallus a chraff, eto efallai na chyfrifid fod ei dalentau yn llawer, ond bu yn "ffyddlawn ar ychydig."
Preswyliai yn mysg y rhai pellaf o'r capel, ond dylynai y moddion gyda dyfalwch canmoladwy. Yr oedd yn hynod am ddylyn seiat a chyfarfod gweddio dyddiau gwaith yr wythnos, a theimlir colled fawr ar ei ol yn y cylchoedd hyn. Yr oedd hefyd yn bur gydwybodol i gyfranu at dreulion yr achos, a phob cymdeithas ddaionus er llwyddo teyrnas Iesu Grist. A diau genym y bydd i'w blant oll ddylyn esiampl dda eu tad yn y pethau hyn - "I gadw ohonynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn."
Cynaliwyd ei gynhebrwng ef boreu y 29ain dylynol, yn eglwys Soar, ger yr hon y dodwyd ei gorff yr ei dy o hir gartref. Trefnid yr orymdaith gan y brodyr Owen Morgan a W. V. Jones, ac arweiniwyd yn y gwasanaeth gan y Parchn. J. Vincent Jones, R. W. Hughes, T. Z. Evans, D. Price ac ysgrifenydd ei gofiant.
D. Davies.