MRS. MARY DAVIES, JUDSON, MINNESOTA.
Tachwedd 20fed, 1901, bu farw y chwaer uchod yn nghartref ei merch a'i phriod, Mr. a Mrs. William Phillips, Judson, Minnesota. Cafodd gystudd maith, ac ar adegau hynod o boenus.Yr oedd yn aelod eglwysig yn Lake Crystal, ond oherwydd gwaeledd nid ydoedd yn gallu dyfod i'r moddion ers llawer o amser. Byddai yn mwynhau y cyfarfodydd crefyddol a gynhelid yn ei chartref yn awr ac eilwaith, a theimlai yn dra diolchgar am bob caredigrwydd a dderbyniai oddiar law ei chyfeillion.
Ganwyd Mrs. Davies yn Bethesda, G. C, Rhagfyr 24, 1830, ac ymunodd mewn priodas a Griffìth Thomas yn 1851. Daethant i'r wlad hon yn 1853, a gwnaethant eu cartref am amser byr yn Nhalaeth Yermont. Y symudiad nesaf ydoedd i Waukesha, Wisconsin, ac yna i ardal Cambria, yn y Dalaeth hon.
Yn 1856 bu farw Mr. Thomas, yr hyn oedd yn brofedigaeth chwerw pan yn cychwyn cartref mewn gwlad newydd. Ymunodd eilwaith mewn priodas yn 1857 a David A. Davies, ond bu yntau farw yn 1884. Treuliodd ei blynyddau diweddaf yn y pentref hwn. Cafodd y chwaer hon wybod yn helaeth am brofedigaethau bywyd, ond yn yr oll credwn iddi gael nerth i ymostwng i'r ewyllys ddwyfol. Erbyn hyn mae wedi ei symud i'r wlad lle nad oes neb o'i phreswylwyr yn dywedyd, "Claf ydwyf." Nerth a gaffo y plant, sef Mrs. Margaret Dakins. Mrs. Lizzie Evans, Mrs. Hannah Griffiths, a Mrs. Sarah Phillips, i ymddiried yn yr Arglwydd, ac i gredu "fod pob peth yn eydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw."
Cymerodd y claddedigaeth le prydnawn Gwener canlynol, pryd y gwasanaethwryd gan y Parchn. John W. Roberts, Edward Thomas, a David Edwards. Claddwyd hi yn mynwent Jerusalem; yr holl drefniadau o dan ofal y braẅd Thomas E. Evans.
Boreu Sul, Rhagfyr laf, yn addoldy Lake Crystal, gan y Parch. D. Edwards, traddodwyd pregeth angladdol i gynulleidfa luosog.