MRS. JOHN R. EVANS. MILWAUKEE, WISCONSIN.
Ganwyd gwrthddrych hyn o gofiant yn Tregarth, ger Bangor, Gogledd Cymru, yn 1829, a bu farw boreu Sabboth, Medi 15fed, 1901, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd hi y dydd Mawrth canlynol wrth ochr ei mam, yn mynwent Salem, Waukesha, a gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd. Enwau ei rhieni oeddynt John a Margaret Davies.Bu y teulu yn cadw tŷ capel eglwys Shiloh (W.), Tregarth, ac yn y tŷ hwnw y ganwyd yr oll o'r plant, a hi oedd yr hynaf. Bu ei thad farw yn Nghymru; ac yn 1845 ymfudodd y fam weddw gyda'r plant i America gan sefydlu yn Boston, Massachusetts. Daeth eu cartref yno yn bur adnabyddus fel lletv ymfudwyr, a chofia llawer hyd heddyw am y croesaw cynes dderbyniasant yno ar eu dyfodiad i'r wlad.
Yn 1855 symudodd y teulu i Milwaukee; ac yn 1858 bu farw y fam. Bu ein chwaer yn briod ddwy waith. Enw ei gŵr cyntaf oedd Lewis Roberts. Enw yr ail oedd John R. Evans, yr hwn a fu farw yn 1888, pryd y gadawyd hi yn weddw ac unig i ddiweddu ei gyrfa. Ni fu ganddi blant ei hunan, ond bu yn fam dda i amryw o ieuenctyd a osododd rhagluniaeth dan ei gofal.
Yn y blynyddau diweddaf yr oedd wedi rhoi i fyny gadw tŷ ac wedi symud i gartrefu gyda'i brawd, William G. Davies, ac yno y bu farw. Oherwydd ei bod yn bur drom o gnawd yr oedd er's blynyddau yn bur ffaeledig - cwynai yn aml oddiwrth ddiffyg anadl a gwendid yn yr aelodau; ond dylynodd foddion gras gyda ffyddlondeb mawr, a hyny er llafur caled iddi yn fynych.
Arferai ddweyd ei bod am fynd i'r moddion hyd y gallai, fel ar ôl methu na fyddai raid iddi ofidio ei bod wedi esgeuluso. Yr oedd yn wraig o gyneddfau cryfion; wedi darllen llawer a gwrteithio ei meddwl yn dda. Gallai ymgomio ar bynciau y dydd, ond yn ngwirioneddau y Beibl yr oedd yn fwyaf cartrefol; yr oedd yn meddu argyhoeddiadau dyfnion a theimladau gwir grefyddol. Wesleyad ydoedd o ran ei barn, a gallai amddiffyn ei golygiadau gyda llawer o fedr. Gyda'r M. E. Seisnig yr ymaelododd gyntaf ar ôl dyfod i Milwaukee, ond yn 1860 trosglwyddodd ei haelodaeth at y M. C., lle y parhaodd yn aelod o werth a dylanwad am 41 mlynedd.
Nid oedd yn gyfoethog, ond yr oedd yn haelionus at bob achos da. Nid oedd ganddi ddawn siarad yn gyhoeddus, nac awydd at flaenori, ond yr oedd yn llawn gweithgarwch a ffyddlondeb. Erys ei choffadwriaeth yn fendigedig yn mysg cylch eang o gydnabod am flynyddau lawer.
Heddwch i'w llwch.
Cyfaill.