MRS. MARY W. EVANS. PENIEL, OSHKOSH, WISCONSIN.

Ganwyd y chwaer dra ffyddlon hon yn Llanrug, ger Caernarfon, Gogledd Cymru, Ebrill 15fed, 1842, yn ferch i William a Mary Ellis.

Priodwyd hi gyda Mr. William Evans, dyn ieuanc o Fôn, Mawrth, 1863.

Yn ngwanwyn 1869 daeth ei phriod i'r sefydliad hmn, ger Oshkosh, Wisconsin, a daeth hithau ato yn yr hydref dylynol. Profodd y ddau yn bobl ddiwyd, gonest, ac anrhydeddus, a'r chwaer hon yn un wir grefyddol. Dringent i fyny o hyd yn ffafr y sefydliad.

Ganwyd iddynt naw o blant, Mrs. Annie D. Davies, Randolph, yr hon a fu farw bedair blynedd yn ôl; Mrs. Catherine Hugh Williams, sefydliad; William Evans yn y Gorllewin; Mrs. Mary R. E. Jones, Oshkosh; Hugh C. Evans, wedi priodi ac yn y sefydliad; Edward Evans, Two Harbors, Minnesota; John Roger, Nellie Maude, a Frank Gilbert gartref.

Cawsant oll ond William y fraint o fod yn bresenol yn angladd eu hanwyl fam.

Ar yr eilfed o Ebrill, ddeng mlynedd yn ôl, collodd ei phriod, a gadawyd hi ei hunan i orphen magu y teulu mawr, a hyny ar ychydig o feddianau.

Ymdaflodd i'r ymdrechfa gydag ymroddiad a medr anghyffredin. Pwysai yn hyderus ar addewidion Duw, a byddai yn hoff iawn o son at y diwedd am ei ffyddlondeb ef. Byddem yn sylwi wrth siarad gyda hi, mai dau beth mawr oedd ar ei meddwl bob amser. Bod i bob un o'r plant gael gwir grefydd, a bod iddynt fyw bywyd pur. Eu cyflwr a'u cymeriad oeddynt bynciau mawrion ei gofal. Credai ond iddynt gael cyflwr da a chymeriad pur, y rhoddid pob peth arall iddynt yn ychwaneg.

Ac er iddi farw yn gynar, eto cafodd weled arwyddion fod yr Arglwydd yn gwrando ei gweddiau. "A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai." Cafodd y ferch hynaf a fu farw, "yn helaeth fynediad i mewn i'r dragwyddol deyrnas," gan adael ar ei hol enw da fel enaint tywalltedig.

Gobeithiwn ei bod hi yn "ysgub blaenffrwyth" cynauaf euraidd yr holl deulu, mewn amser i ddyfod. Galwyd hi i'r wlad well nawn Mawrth, Ebrill 23ain, 1901, pan newydd adael ei 59 mlwydd oed.

Claddwyd hi ger eglwys Soar, wedi cynal y gwasanaeth ar y ffordd yn Peniel, lle yr oedd yn aelod esmwyth a defnyddiol. Gofelid am yr orymdaith gan Mri. Owen Morgans a Benjamin Edwards, a chludid yr arch gan y diaconiaid Hugh J. Davies, John Davies, Rowland Davies a Josiah Roberts, gyda'r cyfeillion Henry D. Jones ac Owen R. Jones.

Arweiniwyd yn yr addoliad gan y Parchn. D. Price, J. V. Jones, ac ysgrifenydd ei chofiant. Teimlid y naws nefolaidd ar yr oll, nes gwneyd y gwasanaeth yn hyfryd, er yn alarus. Bydded i bob un o'r plant adnabod Duw eu mam, a rhodio ger ei fron ef â chalon berffaith ac a meddwl ewyllysgar. Y mae Duw yn hoffi aros yn nheuluoedd ei bobl o genedlaeth i genedlaeth. "Myfi yw Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob."
D. Davies.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1901.